Canwr gwerin ac academydd oedd Roy Bailey (20 Hydref 193520 Tachwedd 2018). Fe'i ganwyd yn Llundain.

Roy Bailey
Ganwyd20 Hydref 1935 Edit this on Wikidata
Bow Edit this on Wikidata
Bu farw20 Tachwedd 2018 Edit this on Wikidata
o methiant y galon Edit this on Wikidata
Sheffield Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcerddor, cymdeithasegydd, cyfansoddwr caneuon, canwr-gyfansoddwr, gitarydd, darlithydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Sheffield Hallam University Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata

Gyrfa canu golygu

Dechreuodd mewn clybiau gwerin yn ardal Southampton a Portsmouth yn y 60au cynnar, canu caneuon o’r Unol Daleithiau, weithiau gyda’i wraig Val. Dechreuodd bartneriaeth broffesiynol gyda Leon Rosselson o 1964 ymlaen, yn canu caneuon Leon. Ffurfiodd y Band of Hope gyda Martin Carthy, John Kirkpatrick, Dave Swarbrick a Steafan Hannigan a recordiwyd CD, sef ‘Rhythm and Reds’ yn 1994. Gweithiodd hefyd gyda Tony Benn o bryd i’w gilydd, hyd at farwolaeth Benn yn 2014. Roedd ganddynt sioe o’r enw ‘The Writing on the Wall’. Erbyn y 70au, roedd o wedi dechrau perfformio dros Ewrop, ac wedyn yn yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia. Yn ogystal â chaneuon protest Leon Rosselson, canodd ganeuon Si Kahn a Robb Johnson ymysg eraill. Derbyniodd MBE yn 2000, ond anfonodd y medal yn ôl yn 2006, i brotestio yn erbyn cefnogaeth Prydain i Israel yn erbyn Libanus. Roedd ei berfformiad olaf yn Sheffield ar ei benblwydd, 83 oed, ym mis Hydref 2018.[1]

Gyrfa academaidd golygu

Pasiodd arholiadau level O ac A yng Ngholeg Technegol Southend. Wedi gwasanaeth genedlaethol gyda’r Llu Awyr Brenhinol a gwaith gyda chwmni NCR, aeth i Brifysgol Caerlyr i astudio Cymdeithaseg ym 1960. Ar ôl graddio, daeth yn ddarlithydd yng Ngholeg Technegol Enfield. Siapiodd ac arweiniodd adran gymdeithaseg y coleg, a daeth yn Coleg Politechnig Middlesex|Goleg Politechnig Middlesex]] ac wedyn Prifysgol Middlesex. Gweithiodd yng Ngholeg Politechnig Sheffield (erbyn hyn Prifysgol Hallam Sheffield) o 1971 ymlaen, a daeth yn deon o’r adran Addysg, Iechyd a Lles. Gyda Mike Brake, ysrifennodd llyfr, ‘Radical Social Work’ ym 1975. Daeth yn aelod o Cynhadledd Gwyredigaeth Genedlaethol ym 1967, ac un o sylfaenwyr Coleg y Gogledd yng Nghastell Wentworth ym 1978. Etholwyd yn gymrawd y Gymdeithas Frenhinol y Celfydyddau ym 1989. Daeth yn Athro yn Sheffield ym 1989, ac yn Athro Emeritus wedi’i ymddeoliad ym 1990.[1]

Cyfeiriadau golygu