Ruw
Llun botanegol o'r planhigyn Ruw
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Sapindales
Teulu: Rutaceae
Genws: Ruta
Rhywogaeth: P. graveolens
Enw deuenwol
Ruta graveolens

Llysieuyn blodeuol yw ruw neu rhuw. Enwau eraill: Ruw'r gerddi, Gorddawn, Gorddon, Llysyr echryshaint, Rhutain, Torwenwyn. Mae'n perthyn i'r teulu Rutaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Ruta graveolens a'r enw Saesneg yw Rue. Daw'r enw Cymraeg o'r Hen Ffrangeg a'r Saesneg.[1]

Mae'n frodorol i ardal y Balcanau, ond mae bellach yn cael ei dyfu ledled y byd mewn gerddi. Defnyddir yn aml fel planhigyn addurniadol oherwydd ei ddail glasaidd, ac oherwydd ei oddefiad i amodau pridd poeth a sych. Mae hefyd yn cael ei drin fel llysieuyn rhinweddol ac weithiau mewn coginio fel Perlysieuyn, ac i raddau llai fel ymlid pryfed ac arogldarth.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. "Ruw". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 28 Medi 2022.