Plwyf sifil mawr ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Saddleworth. Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Oldham. Saif i'r dwyrain o dref Oldham a thua 11 milltir (18 km) o Fanceinion. Mae'n cynnwys sawl pentref a phentrefan yn ogystal â maestrefi Oldham ar ochr orllewinol y Pennines. Mae'r pentrefi yn cynnwys Castleshaw, Delph, Denshaw, Diggle, Dobcross, Friezland, Grasscroft, Greenfield, Heights, Scouthead, Springhead ac Uppermill.

Saddleworth
Mathplwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Fetropolitan Oldham
Daearyddiaeth
SirManceinion Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd29.4 mi² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.55°N 2°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04000005 Edit this on Wikidata
Cod OSSD995061 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddo boblogaeth o 25,460.[1]

Cyn crëwyd Manceinion ym 1974 roedd Saddleworth yn rhan o Swydd Efrog ond roedd gan yr ardal gysylltiadau cryf â Rochdale yn Swydd Gaerhirfryn. Am ganrifoedd bu'r plwyf yn ganolfan cynhyrchu brethyn gwlân yn ôl cyfundref diwydiant aelwyd. Ar ôl y Chwyldro Diwydiannol, yn y 18g a'r 19g, daeth Saddleworth yn ganolfan ar gyfer nyddu a gwehyddu cotwm.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 23 Awst 2020
  Eginyn erthygl sydd uchod am Fanceinion Fwyaf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato