Gêm pêl a raced i ddau neu bedwar o chwaraewyr yw sboncen.[1] Chwaraeir â racedi a phêl rwber fechan a fwrir yn erbyn waliau cwrt caeedig.

Sboncen
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathchwaraeon peli, chwaraeon raced Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gornest sboncen rhwng dau chwaraewr

Datblygodd sboncen o'r gêm racedi yn ysgolion bonedd Lloegr yng nghanol y 19g. Ar droad y ganrif, adeiladwyd cyrtiau preifat a sefydlwyd clybiau cynnar yng Nghaerfaddon a Llundain. Ffynnodd y gêm yn Lloegr wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, a chytunwyd ar y rheolau. Yn Unol Daleithiau America, chwaraeid gêm ychydig wahanol o'r enw tenis sboncen ac yn defnyddio pêl a racedi tenis lawnt. Cafodd cystadlaethau cynnar rhwng Prydain a'r Unol Daleithiau eu rhwystro felly oherwydd gwahaniaethau rhwng y cyrtiau a'r dull sgorio. Cyflwynwyd sboncen o Loegr i wledydd yr Ymerodraeth Brydeinig, ac yn hwyrach i wledydd eraill. Heddiw, mae Ffederasiwn Sboncen y Byd yn hyrwyddo'r fabolgamp ac yn trefnu pencampwriaethau rhyngwladol.[2] Mae sboncen yn un o chwaraeon Gemau'r Gymanwlad ond nid yn rhan o'r Gemau Olympaidd.

Ymhlith mawrion y gêm mae'r Eifftiwr F. D. Amr Bey, y teulu Khan o Bacistan (gan gynnwys Jahangir Khan), y Saesnes Janet Morgan, ac Heather McKay (Blundell gynt) o Awstralia.

Cyfeiriadau golygu

  1.  sboncen. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Mehefin 2017.
  2. (Saesneg) squash rackets. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Mehefin 2017.