Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1912

Dim ond un ras seiclo a gynhaliwyd yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1912 yn Stockholm. Treial amser oedd hwn, gyda'r amser yn cyfrif fel cystadleuaeth unigol ac yn cyfrif tuag at cystadleuaeth tîm. Cynhaliwyd y ras ar 7 Gorffennaf 1912.

Daeth cymdeithasau pob gwlad i gytundeg mai dim ond seiclwyr amatur a oedd yn dal trwydded rasio yr Union Cycliste Internationale oedd yn gymwys i gystadlu. Roedd yn rhaid cyflwyno'r drwydded wrth gofrestru i gychwyn y ras.

Medalau golygu

Chwaraeon Aur Arian Efydd
Treial amser unigol dynion   Rudolph Lewis   Frederick Grubb   Carl Schutte
Treial amser tîm   Sweden
Erik Friborg
Ragnar Malm
Axel Persson
Algot Lönn
  Prydain Fawr
Frederick Grubb
Leonard Meredith
Charles Moss
William Hammond
  UDA
Carl Schutte
Alvin Loftes
Albert Krushel
Walter Martin

Cyfranogaeth golygu

Cymerodd 123 seiclwr o 16 cenedl ran yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1912:

  1. Gan gynnwys un Almaenwr a gynyrchiolodd Rwsia.

Tabl medalau golygu

 Safle  Gwlad Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   De Affrica 1 0 0 1
  Sweden 1 0 0 1
3   Prydain Fawr 0 2 0 2
4   UDA 0 0 2 2
Cyfanswm 2 2 2 6

Cyfeiriadau golygu