Senedd y Lluoedd yng Nghairo

Cyfarfod o filwyr Prydeinig yng Nghairo, yr Aifft, yn Chwefror 1944 yn dadlau'r gymdeithas yr oeddent yn dymuno ei gweld yn dilyn yr Ail Ryfel Byd oedd Senedd y Lluoedd yng Nghairo. Caeodd yr awdurdodau milwrol y Senedd yn Ebrill 1944. Pleidleisiodd nifer o filwyr o blaid gwladoli banciau, tir, mwynfeydd, a chludiant yn y Deyrnas Unedig.[1] Leo Abse, oedd yn gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol cyn iddo ddod yn wleidydd, oedd un o'r rhai a ddatganodd ei gefnogaeth am wladoli Banc Lloegr.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Cairo Forces Parliament. Adalwyd ar 6 Rhagfyr, 2008.
  2. (Saesneg) Welsh Icons: Leo Abse. Adalwyd ar 6 Rhagfyr, 2008.
  Eginyn erthygl sydd uchod am yr Aifft. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato