Sglodyn a rhif adnabod

Sglodyn a rhif adnabod personol (Saesneg: Chip and PIN, PIN = personal identification number) yw sustem electronig ar gyfer talu gyda cherdyn credyd neu debyd yn fwy ddiogel. Mae'r cerdyn yn cynnwys sglodyn electronig, a mae'n rhaid i'r defnyddiwr rhoi ei gerdyn i mewn i'r peririant a theipio'r rhif adnabod. Mae'r diogelwch ychwanegol yn dod o'r ffaith bod camddefnydd cerdyn wedi'u lladrata yn fwy anodd heb gwybod y rhif adnabod personol, ond mae'n bwysig iawn i ddefnyddwyr y cardiau deipio'r rhif yn gudd heb i bobl eraill ei weld. Caniateir i werthwyr derbyn cardiau credyd/debyd heb y rhifau personol, ond fasai rhaid iddynt dalu am bob camdefnydd eu hunain, ac felly mae hon yn anarferol.

Arwydd Sglodyn a rhif adnabod

Mae'r enw saesneg "Chip and PIN" wedi cael ei ddefnyddio yn aml gan y banciau a'r llywodraeth Brydeinig, ond does dim enw Cymraeg arferol. Dwedir "Sglodyn a PIN" neu "Chip a PIN" (neu "... a phin") weithiau hefyd.