Sgwrs:Abaty

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic Enwau'r abatai ar restr Cadw

Enwau'r abatai ar restr Cadw golygu

Dwi wedi cywiro rhai o'r rhain yn barod (gw. yma). Mae'n amlwg fod Cadw yn defnyddio enwau'r cymunedau neu'r lle agosaf, unwaith eto. E.e. "Abaty Llanddoged"(!) = Abaty Maenan (yng nghymuned Llanddoged a Maenan, Sir Conwy). Erys pedwar lleoliad sy'n peri penbleth, sef "Abaty Llanboidy", "Abaty Llangatwg Feibion Afael [=Llangatwg Feibion Afel]", "Abaty Dyffryn Clydach" ac "Abaty['r] Trallwng". Gweler Tai crefydd Cymru, sy'n cynnwys pob abaty, priordy a lleiandy hanesyddol yng Nghymru. Pam fod Cadw yn mynd yn groes i bob enw hanesyddol a llyfr hanes? Mae'n hurt. Anatiomaros 22:25, 18 Rhagfyr 2010 (UTC)Ateb

Wedi datrys un arall. "Abaty Llanboidy" = Abaty Hendy-gwyn ar Daf!!! Anatiomaros 22:38, 18 Rhagfyr 2010 (UTC)Ateb

Hurt bost! Ystrad Marchell oedd un o'r tri; erys dau yn ddirgelwch. Dw i wedi eu nodi ar yr erthygl i arbed amser, dros dro! Diolch am dy gymorth. Llywelyn2000 06:43, 19 Rhagfyr 2010 (UTC)Ateb
Diolch. Wedi datrys y ddau arall rwan: Abaty Nedd ac Abaty Grace Dieu. Anatiomaros 18:42, 20 Rhagfyr 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Abaty".