Sgwrs:Anffyddiaeth

Latest comment: 11 o flynyddoedd yn ôl by Adam in topic Dolen wallus

Untitled golygu

'Mae'r rhan fwyaf o anffyddwyr yn ddyneiddwyr hefyd.' Allwn ni gael ffynhonell ar gyfer y gosodiad hwn os gwelwch yn dda. Lloffiwr 19:50, 21 Mai 2008 (UTC)Ateb

Dwi'n cytuno bod hyn yn osodiad syfrdanol braidd. Oes rhywun wedi gwneud arolwg, ac os felly, ym mha wlad? Buasai'r rhan fwyaf o gomiwnyddion ledled y byd yn disgrifio eu hunain fel "anffyddwyr", er enghraifft. Mae rhan o'r broblem yn ymwneud â'r term "dyneiddiwr" hefyd: yn hanesyddol doedd y mwyafrif o'r Dyneiddwyr (cyfnod y Dadeni) ddim yn anffyddwyr o gwbl. Anatiomaros 20:13, 21 Mai 2008 (UTC)Ateb

Hir amser yn ôl fe ysgrifennais mai "Anffyddiaeth yw’r gred nad yw Duw na duwiau yn bodoli." ond ar ôl ymchwylio 'dwi wedi sylweddoli mai nid cred yw anffyddiaeth ond absenoldeb cred Felly, rhaid newid y diffiniad er mwyn bod yhn fwy cywir.Rhys 08:54, 10 Rhagfyr 2011 (UTC)

Dolen wallus golygu

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 01:59, 10 Mai 2012 (UTC)Ateb

Mae'n gweithio'n iawn i mi! —Adam (sgwrscyfraniadau) 04:29, 19 Medi 2012 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Anffyddiaeth".