Sgwrs:Dyneiddiaeth

Latest comment: 12 o flynyddoedd yn ôl by Garik in topic Honiadau camarweiniol

Honiadau camarweiniol golygu

Mae dau honiad yng nghyflwyniad yr erthygl hon sydd braidd yn gamarweiniol. Yn gyntaf, mae'r erthygl yn honni bod "gan ddyneiddiwr ffydd mewn adnoddau meddyliol dyn i ddod a gwybodaeth a dealltwriaeth i’r byd, ac i ddatrys y broblemau moesol ynghlyn a defnyddio’r gwybodaeth hwn." Mae'n wir bod dyneiddwyr yn credu mai adnoddau meddyliol dyn y dylwn ni eu defnyddio i geisio deall y byd a datrys problemau, ond dwi'n meddwl bod y gair "ffydd" yn camarwain y darllenydd. Safbwynt dyneiddwyr modern yw nad oes adnoddau gwell ar gael, ac y dylwn ni eu defnyddio i geisio datrys problemau'r byd. Ond dydy hyn ddim yn golygu bod gan ddyneiddwyr ffydd llwyr y gall adnoddau dynol ddatrys pob problem (ac mae'r testun presennol yn awgrymu hyn). Yn ail, honnir bod "Dyn yw mesur popeth" yn gyweirnod i ddyneiddiaeth. Yn hanesyddol mae'n bosib bod hyn yn wir, ond dwi'n amheugar iawn am gymwysiadolrwydd y dyfyniad hwn i ddyneiddwyr modern. Dwi hefyd yn anfodlon bod Llywelyn2000 wedi gwrthdroi fy ngolygiadau heb unrhyw eglurhad o gwbl. Dwi'n hollol fodlon i drafod pethau fan hyn cyn mynd yn bellach, ond dwi ddim yn fodlon i gael fy nhrin fel fandal. Garik 15:43, 3 Medi 2011 (UTC)Ateb

Diolch am eich cyfraniad ac am ymestyn syniadaeth yr erthygl.. Mae'n ddrwg gen i wna wnes i adael sylwadau'n egluro pan wnes i droi'r testun yn ol yma. A diolch am ddod yn ol ataf. Mi wnes i hynny oherwydd fod eich ychwanegiad (ar y chwith i'r dudalen uchod, mewn coch) yn cymhlethu'r frawddeg gan ei gwneud hi'n anodd ei deall. Mae'ch ychwanegiad yn cynnwys cromfachau mewn isgymal ar ddiwedd y frawddeg - arddull anarferol os nad anghywir. Mae croeso i chi ychwanegu'r syniadau sydd gynnoch chi eto, mewn modd symlach. Yn wir, fel y dywedwch, mae angen gwella'r erthygl hon, cynnwys cyfeiriadau Cymreig a thacluso'i hiaith hefyd. Croeso i chi wneud hynny, mi dria inna pan gaf gyfle. Llywelyn2000 22:59, 3 Medi 2011 (UTC)Ateb
Diolch am eich ateb, Llywelyn. Fel ieithydd, dwi'n fwy amheus ynglŷn ag anarferoldeb cromfachau mewn isgymal ar ddiwedd brawddeg (a go brin fod cwestiynau arddulliadol fel hyn yn fater o "gywir" ac "anghywir"). Er hynny, dwi'n hollol barod i gyfaddef nad oedd fy newidiadau wedi eu mynegi'n dda iawn; wnes i'r golygiad ar frys, ac mi oeddwn i'n bwriadu mynd ati i dacluso'r erthygl, yn cynnwys fy nghyfraniad i, pan fyddai mwy o amser gennyf. Ac dwi o hyd yn gobeithio cael yr amser i wneud hynny, efallai tua diwedd yr wythnos. Garik 16:37, 4 Medi 2011 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Dyneiddiaeth".