Sgwrs:Eglwys-bach

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic Untitled


Untitled golygu

Eglwys-bach medd y Dict. of the Place-names of Wales; Gomer; 2007. Bach ar ôl y pendefig Bach ap Carwed yn hytrrach na'r ansoddair (a fyddai'n golygu treiglo i Eglwys-fach). Llywelyn2000 21:55, 6 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Ia, dwi'n gyfarwydd â'r ffurf safonol ar yr enw lle hwn, ond yn fy mhrofiad i does neb bron yn ei defnyddio heblaw am ambell gyfrol academaidd. 'Run fath yn achos 'Penmaen-mawr' ayyb - hollol gywir yn ieithyddol ond byth yn cael ei defnyddio yn lleol na gan y cyngor sir ac ati.
A does gen i ddim syniad o gwbl pwy oedd Bach ap Carwed. Enw a geir yn yr achrestrau yn unig baswn i'n meddwl! Anatiomaros 22:08, 6 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Eglwys-bach".