Sgwrs:Ffwc

Latest comment: 15 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

Yn fy marn i, does dim llawer o fantais mewn ail-adrodd cynnwys y dudalen rhyw.

Os mae rhagor yn dywedadwy am ddefnydd y gair "ffwc" (neu "ffycio"), fel yn yr erthygl Saesneg en:Fuck, allai hynny fod yn addas. Ond mae rhaid bod digon er mwyn i fod yn fwy na geiriadur. Os nac oes, gellir greu dudalen fyr yn Wiktionary. Alan012 13:31, 13 Gorffennaf 2008 (UTC)Ateb

Dwi'n tueddu i gytuno. Nid dyma'r lle i fynd i fewn i fanylion cyfathrach rhywiol, fel ti'n ddeud. Ac os am gael erthygl am y gair ei hun - sy'n air diweddar yn y Gymraeg, wedi'i fenthyg o'r Saesneg - oes 'na ddigon o ddeunydd? Nid dyma'r unig air sy'n disgrifio'r weithred chwaith; ydym ni am gael erthyglau hefyd am "cnychu" a "cwtsio" ayyb? Anatiomaros 19:45, 13 Gorffennaf 2008 (UTC)Ateb

Cytuno. Mae e'n ailadroddllyd. Ychwanegu'r gair i'r geiriadur fel yr awgrymit. Fy mwriad gwreiddiol oedd dangos fod Wici yn fodern yn ei weledigaeth, ac mae angen hynny. (Llywelyn2000)

Dwi'n cytuno â sylw olaf Llywelyn a does gennyf ddim byd yn erbyn cynnwys pethau tebyg na bod yn "fodern", ond rhaid fod digon o ddeunydd ar gael i gyfiawnhau erthygl ar wahân (mae'r sefyllfa'n wahanol yn achos y gair Saesneg gan fod ganddo hanes hir a sawl defnydd arall fel ymadrodd ayyb). Dwi am ailgyfeirio'r dudalen at Cyfathrach rywiol felly. Gellid ychwanegu adran am eiriau ac ymadroddion Cymraeg yn yr erthygl honno. Anatiomaros 19:54, 14 Gorffennaf 2008 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Ffwc".