Swydd Gorllewin Efrog neu Gorllewin Swydd Efrog? golygu

Mae Gorllewin Swydd Efrog yn fwy cywir siawns?--Ben Bore (sgwrs) 09:48, 11 Chwefror 2013 (UTC)Ateb

Ro'n i'n teimlo'n union fel ti wrth deipio'r enw, ond mi welais ei fod wedi ei greu yn 2008 gan Anatiomaros, felly gadewais iddo! Tybed o ble gafwyd yr enwau hyn nol yn 2008? Oes yna gofrerstr o enwau cydnabyddiadig? Os na cheir dadleuon dros gadw'r hen fathiad, dw i'n cytuno a thi Ben, a mi wnai eu nhewid - ar ol gorffen holl drefi Lloegr. Wedi dweud hyn, mae gweddill y siroedd yn cychwyn efo'r gair Swydd! Llywelyn2000 (sgwrs) 23:19, 11 Chwefror 2013 (UTC)Ateb
"Gorllewin Efrog" (heb Swydd na Sir) sydd yn Yr Atlas Cymraeg Newydd, ac hefyd "De Efrog", "Gorllewin Efrog", "Riding Dwyreiniol Efrog", ac "Efrog". Dim ond ychydig o'r siroedd y mae'r atlas yn rhoi "Swydd" ar ddechrau eu henwau: Swydd Gaerlŷr, Swydd Derby a Swydd Nottingham yw'r unig enghreifftiau yn Lloegr. Ar y llaw arall, ceir Amwythig, Henffordd, Stafford, Rhydychen ayyb heb "Swydd" yn eu henwau. Yn ôl fy nhyb i, y rheswm am hwn yw bod dinasoedd Caerlŷr, Derby, a Nottingham hefyd yn awdurdodau lleol o rwy fath (ond eto mae ffiniau'r map yn yr atlas (1999) yn wahanol i'r ffiniau yma!). —Adam (sgwrscyfraniadau) 23:59, 11 Chwefror 2013 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Gorllewin Swydd Efrog".