Sgwrs:Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffyrdd Prydain

Latest comment: 16 o flynyddoedd yn ôl by Llygadebrill in topic Ras ffordd neu ras ffyrdd?

Ras ffordd neu ras ffyrdd?

golygu

Yn ymateb i sylw Thaf ar fy nhudalen sgwrs. Mae gwahaniaeth rhwng y Gymraeg a'r Saesneg yma gyda'r math yma o frawddeg, e.e. Cawl Moron, siop lyfrau ac yn y blaen o gymharu â carrot soup, book shop am fod mwy nag un moronen/llyfr. Felly os yn disgrifio ras sy'n mynd ar hyd fwy nag un ffordd, ras ffyrdd ydyw. Gyda llaw, byswn i fyth yn dweud "ras ar y ffordd" yn Gymraeg oni bai fy mod yn sôn am un ffordd penodol; "ras ar y ffyrdd" fyddai'n gywir fel arfer. Ac wrth gwrs byswn i ddim yn dweud "ras traciau" - dim ond ar un trac mae ras o'r fath dwi'n cymryd? Neu ydw i'n camddeall? Hwyl, --Llygad Ebrill 23:12, 13 Ebrill 2008 (UTC)Ateb

Ddim yn meddwl bod ti wedi cweit deallt fy mhwynt. Mae 'ffordd' yn cyfeirio at y tirwedd. Dylir defnyddio geiriau sy'n cyfeirio at dirwedd yn y ffurf sengl. Gweler hefyd wefan y BBC yn Gymraeg fel engraifft - [1] Ras Lôn mae nhw'n ei alw yma ac nid Ras Lônydd. Yn dilyn yr un rhesymeg, gelwir ras rhedeg a aiff fyny mynydd yn Ras Mynydd, hyd yn oed os aiff fyny sawl mynydd, ac nid Ras Mynyddoedd, gan mai enw am ddisgyblaeth yw hi. Mae sawl engraifft o hyn i gael ar wefan y BBC yn Gymraeg. Thaf 08:14, 14 Ebrill 2008 (UTC)Ateb

Sori am gymryd cyhyd i ymateb. Dwi dal ddim yn gweld perthnasedd gramadegol y ffaith mai'r disgrifio tirwedd mae'r enw "ffordd". Mae'r un fath o strwythur â sydd mewn "siop lyfrau," "ras geffylau," ac yn y blaen. Fy marn i yw mai "ras lonydd," "ras ffyrdd" sy'n gywir ac mai canlyniad i gyfieithu o'r Saesneg yw pethau fel "ras mynydd" er eu bod yn cyffredin iawn. Digon cyffredin i adael "ffordd" yn y teitl, ocê ocê. Ond wedi meddwl, oni fyddai "Pencampwriaethau ras ffordd cenedlaethol prydeining" yn well? Mae'r ystyr yn gliriach yn fy marn i. Hwyl, --Llygad Ebrill 08:52, 19 Ebrill 2008 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffyrdd Prydain".