Sgwrs:Rhestr o'r Ysgolion Cynradd Cymraeg hyd at 1993

Latest comment: 11 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000

Mewn ychydig o bembleth fan hyn. Dw i wedi creu Rhestr o'r Ysgoloion Cynradd CymraegHyd at 1993. Roeddwn am ei dad-gyfeirio at Rhestr Ysgolion Cymraeg heb yr o'r ac heb 'hyd at 1993'. Wrth wneud hynny mae Rhestr Ysgolion Cynradd Cymraeg fe'i adgyfeirir at Rhestr ysgolion cynradd yng Nghymru.

Yn rhestr o'r ysgolion cynradd Cymraeg hyd at 1993 mae enw'r Awdurdod addysg fu'n gyfrifol, lleoliad yr ysgol, enw'r ysgol, dyddiad agor a lle mae gwybodaeth ar gael faint o blant oedd ar y gofrestr pan agorwyd yr ysgol. Mae'r ysgolion i gyd yn ysgolion penodedig Cymraeg.

Mae'r rhestr ysgolion cynradd yng Nghymru yn rhoi enw'r ysgol, lleoliad a'r math o ysgol Cymnraeg, Sae4sneg Dwyieithog. Yn anffodus nid yw mor syml a hynny. Gall fod yn ysgol Gymraeg draddodiadol, neu Gymraeg benodedig er engraifft.

Efallai mai'r peth gorau ydy cadw Rhestr o'r Ysgolion Cynradd Cymraeg fel ag y mae. Beth mae eraill yn feddwl 95.144.38.117 23:33, 30 Tachwedd 2012 (UTC)Ateb

Beth yn union yw diffiniad y rhestr hon yn llyfr Iolo WW? Dw i'n sylwi nad oes yr un ysgol naturiol Gymraeg yno ee ysgolion Gwynedd i gyd a llawer iawn o ysgolion Powys, Ceredigion, Sir Ddinbych ayb. Felly, dw i wedi newid rhagarweiniad yr erthygl i egluro hynny. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:11, 2 Rhagfyr 2012 (UTC)Ateb
Diolch am ymateb.Yn ei ragair i'r llyfr mae IWW yn dweud:
"Ysgolion, mewn ardaloedd Seisnigedig yn bennaf, yn defnyddio'r iaith Gymraeg fel iaith dysgu, iaith chwarae, iaith gweinyddu ac iaith cymdeithasu. Ysgolion y bu rhieni yn gofyn, ymdrechu, ac yn brwydro i'w cael, weithiau am flynysddoedd ac weithiau yn groes i ewyllys swyddogion a chynghorwyr sir. Ysgolion, yn y lle cyntaf, i blant o gartrefi Cymraeg, ond y gwelodd rhieni d-Gymraeg eu gwerth yn fuan iawn."
Mae'r term ysgolion penodedig Cymraeg wedi cael ei ddefnyddio ond erbyn hyn mae gan y Cynulliad ei ddiffyniad ei hun yn dibynnu ar gyfartaledd y defnydd o'r Gymraeg a wneir yn yr ysgol.
Felly llawer mwy cymleth nag a feddyliais wrth ddechrau'r ddalen. Gwerthfawrogir unrhyw awgrym Dyfrig (sgwrs) 16:55, 2 Rhagfyr 2012 (UTC)Ateb
Ydy IWW yn defnyddio'r term 'penodedig' neu 'swyddogol' am yr ysgolion sydd ar y rhestr? Wyddost ti ble mae'r terminoleg ar wefan y Cynulliad? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:30, 3 Rhagfyr 2012 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Rhestr o'r Ysgolion Cynradd Cymraeg hyd at 1993".