Sgwrs:Russel George

Latest comment: 8 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000

Mae llawer iawn o dudalennau sy'n cysylltu yma. Russell George yw'r sillafiad cywir. Mae hi'n edrych fel bod bot wedi camsillafu'r enw. Oes ffordd gyflym o gywiro nhw, e.e. bot arall? --Oergell (sgwrs) 12:01, 9 Mai 2016 (UTC)Ateb

Dwi ddim yn hoffi'r ffaith fod y tudalennau llefydd yn cyfeirio at unigolion. Os oedd posib newid hyn gyda bot fase'n well cyfeirio at yr etholaeth yn unig, fel yn y wybodlen. --Dafyddt (sgwrs) 12:10, 9 Mai 2016 (UTC)Ateb
Rhoddwyd brawddeg ar bob Cymuned, yn deillio o fas data a grewyd gan Defnyddiwr:Cymrodor, ond dydy o heb olygu ers tro, a dim son amdano. Mater bach ydy eu cymryd i ffwrdd, neu eu diweddaru. Ro'n i'n dal yn ol, rhag ofn i mi glywed rhywbeth ganddo. Tynnu? Llywelyn2000 (sgwrs) 14:08, 9 Mai 2016 (UTC)Ateb
Baswn i o blaid tynnu yn hytrach na diweddaru. Ac eithrio'r erthygl am etholaeth ei hun, dwinnau chwaith ddim yn credu bod eisiau cyfeirio at unigolion fel AC/AS o fewn erthyglau am drefi neu bentrefi - un achos bod o drafferth os nad ydych yb gwybod sut i redeg bot, mae'n waith cofio (oni ddefnyddir wikidata), a bach o overkill ta beth.--Rhyswynne (sgwrs) 19:53, 9 Mai 2016 (UTC)Ateb
Ie, mi fyddai'n well tynnu'r frawddeg yn dechrau 'Cynrychiolir'. Newydd sylwi nad yw'r dolenni 'etholaethol' yn y wybodlen o angenrheidrwydd yn arwain at dudalen yr etholaeth ond mi fyddai'n llawer haws i fot ddiweddaru rheiny, neu cadw'r wybodaeth yn Wikidata os yw hynny'n bosib --Dafyddt (sgwrs) 20:25, 9 Mai 2016 (UTC)Ateb
Ar dri etholaeth y cafodd ei osod: Russel George -> Russell George, Sandy Mewies -> Hannah Blythyn a Rhodri Glyn Thomas -> Adam Price. Os cofiaf yn iawn, creu cymunedau a phentrefi yn ardal Powys oeddem ar y pryd. Mae'r olaf o'r rhain (Rhodri Glyn Thomas) wedi'i ychwanegu ar y wybodlen gan ddefnyddwyr eraill ee Llanpumsaint ble rhoddwyd enw'r Aelod yn y wybodlen. Teirawr gymerodd hi i redeg y bot a chafwyd 325 newid/golygiad. Felly, mae nhw wedi'u cywiro/diweddaru, a gallaf eu dileu os oes cytundeb. Mae rhoi'r wybodaeth ar gymunedau tair etholaeth braidd yn anghyson. Rhyswynne: croeso nol! Ar hyn o bryd fedrwn ni ddim defnyddio Wicidata i ddod ag unigolion i fewn i WP. Dw i di dod a rhestrau cyfan o WD i fewn, ond mi fydd hi'n flwyddyn arall cyn bydd pethau yn ei le - dim ond Ham a fi sydd wrthi ar WD, hyd y gwela i. AWB? Llawer o wybodaeth amdano, a hyfforddiant yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:09, 10 Mai 2016 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Russel George".