Sgwrs:Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig

Latest comment: 11 mis yn ôl by Adda'r Yw in topic Charles nid Siarl


Untitled golygu

Dw i ddim yn credu fod William na Harri nag a dim i wneud a Chymru. Dim o Gymru yn sicr.

Oes rhaid i ni fod mor gynffonllyd? golygu

Dwi'n sylwi fod enw'r erthyglau ar y wicipediau eraill yn amrywio'n fawr. Oes rhaid i ni ddefnyddio "Tywysog Cymru"? Dyma'r enw a ddefnyddir ar gyfer ni yng Nghymru yn bennaf (e.e. ar newyddion Prydeinig y BBC "Prince Charles" sy'n arferol; Newyddion BBC Wales ac S4C [=BBC] "the Prince of Wales/Tywysog Cymru"). Beth sydd o'i le gyda "Y Tywysog Siarl" neu "Siarl Mountbatten-Windsor"? Anatiomaros 20:17, 8 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

Dw i ddim yn hoffi'r ffaith fod gan Carlo'r teitl "Tywysog Cymru" o gwbl, ond ar gyfer gwyddoniadur dw i'n credu fod yn rhaid defnyddio'r teitl "Tywysog Cymru" ar ei gyfer. Dyna'r teitl y cyfeirir ato yn amlach na pheidio ar y cyfryngau yn y DU a ledled y byd. Pe baem ni'n newid teitl yr erthygl yn y fan hon, buaswn i'n dadlau ein bod ni'n caniatau i'n credoau a'n syniadau gwleidyddol / cenedlaetholgar lywio'n barn. Pwyll 15:11, 2 Ebrill 2010 (UTC)Ateb

Charles nid Siarl golygu

Gan ein bod yn nwylo ein ffynonellau, ein cyfeiriadau, gwelaf mai Charles nid Siarl sy'n cael ei ddefnyddio gan Golwg 360, y BBC, Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Awgrymaf ei newid; a newid ein polisi ar enwau brenhinoedd ayb. Mae Cymreigio hen enwau / enwau hanesyddol i'r Gymraeg yn y testunau, ond nid y brenin / tywysog cyfoes. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:55, 8 Mai 2023 (UTC)Ateb

@Adda'r Yw, AlwynapHuw: Os nad oes ffynonellau cadarnach, cyfoes yn defnyddio 'Siarl', yna mi af ati i newid y teitl. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:59, 9 Mai 2023 (UTC)Ateb
Mae'n debyg gen i mai dyna'r egwyddor gywir. Mae'r confensiwn o gyfieithu enwau brenhinoedd hanesyddol yn eithaf rhyfedd, ond confensiwn ydyw, ac nid yw'r bobl dan sylw yma i fynegi eu dewis. Yn yr achos hwn mae dewis wedi'i fynegi. "Charles" felly. Craigysgafn (sgwrs) 08:56, 9 Mai 2023 (UTC)Ateb
Cytuno â Charles hefyd, a'r polisi o barhau i Gymreigio enwau brenhinoedd a breninesau hanesyddol. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 10:59, 9 Mai 2023 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig".