Sgwrs:Tom Pryce

Latest comment: 16 o flynyddoedd yn ôl by Lloffiwr in topic Gramadeg ac arddull

Gramadeg ac arddull golygu

Wedi dechrau bwrw golwg dros yr erthygl. Os byddai'n newid yr ystyr a'i wneud yn anghywir wrth wneud, neu os nad ydy'r cynigion yn plesio, dwedwch wrthai. Lloffiwr 12:00, 10 Chwefror 2008 (UTC)Ateb

Buodd Pryce yn gyrru'r fan pobydd am gyfnod pan oedd yn 10 oed, yntau ond unwaith cafodd e yrru'r fan? Lloffiwr 12:50, 10 Chwefror 2008 (UTC)Ateb

Mi fuaswn i'n casglu o'r ffynonellau ei fod yn gyrru'r fan yn weddol reolaidd - yn sicr fwy nag unwaith. Rhion 15:41, 10 Chwefror 2008 (UTC)Ateb
Diolch Rhion. Lloffiwr 16:22, 10 Chwefror 2008 (UTC)Ateb

Mae gwefan y BBC yn sillafu Formula ar gyfer y rasys ceir yn hytrach na Fformiwla (heblaw am un achos o Fformiwla). A ddylwn ni ddefnyddio Formula ar Wicipedia hefyd? Lloffiwr 16:22, 10 Chwefror 2008 (UTC)Ateb

Rwy wedi gweld sawl achos ar gwefan y BBC yn defnyddio Fformiwla, e.e. [1] [2] [3] [4]. Hefyd mae Newyddion ar S4C wedi defnyddio Fformiwla ar sawl achlysur. Gan bod gair cymraeg ar gael, dylwn ni ei defnyddio yn fy marn i. AlexJ 23:49, 10 Chwefror 2008 (UTC)Ateb
Iawn Lloffiwr 12:12, 17 Chwefror 2008 (UTC)Ateb

Cyfieithu 'main straight'. Rwyf wedi bwrw golwg ar Eiriadur yr Academi ac mae hwnnw'n cynnig hyn am 'The [home] straight': Y darn syth [olaf], yr hyd olaf. Beth felly am 'y prif hyd' am 'main straight', gan roi'r Saesneg mewn cromfachau y tro cyntaf y soniwn amdano? Oes rhywun wedi clywed beth mae sylwebyddion rasus ceffylau neu geir yn ei ddweud? Lloffiwr 12:12, 17 Chwefror 2008 (UTC)Ateb

Rwy'n meddwl y busai'n well gen i "y prif ddarn syth" na "y prif hyd" - mae'n gliriach beth yw'r ystyr. Wn i ddim beth sy'n cael ei ddefnyddio gan sylwebyddion. Rhion 12:25, 17 Chwefror 2008 (UTC)Ateb
Ydych chi AlexJ yn hapus gyda 'y prif ddarn syth'? Lloffiwr 16:38, 24 Chwefror 2008 (UTC)Ateb
Ie AlexJ 17:20, 25 Chwefror 2008 (UTC)Ateb
Wedi newid hwn. Lloffiwr 23:28, 12 Mawrth 2008 (UTC)Ateb

Diwedd timau Token a Rondel Racing. Dwi ddim yn hollol siwr o'r hanes fan hyn: ai Token ynteu Rondel Racing oedd y cyntaf i gau? Dilyn ei gilydd oeddent ynteu a oeddent yn cydredeg? Os oeddynt yn cydredeg, a oeddent yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, y naill tîm fel y llall yn gyrru ceir Royale, ynteu a oeddent yn cystadlu mewn rasus o Formula gwahanol i'w gilydd? Lloffiwr 15:48, 17 Chwefror 2008 (UTC)Ateb

Rwyf wedi creu erthygl fer ar Token Racing sy'n help i egluro'r sefyllfa, gobeithio. Rhion 06:56, 18 Chwefror 2008 (UTC)Ateb
A bwrw bod erthygl ar Token Racing yn bod nawr a fyddai'n well cael gwared ar: 'Cafodd y tîm ei greu gan Tony Vlassopulos a Ken Grob ar ôl i'r tîm gwreiddiol Token cael ei gau i lawr yn 1973 oherwydd diffyg cefnogaeth ariannol, oedd hefyd wedi gorfodi Rondel Racing i gau.' - gan bod y wybodaeth yn yr erthygl? Lloffiwr 16:29, 24 Chwefror 2008 (UTC)Ateb
Ydy hyn yn gywir, ac yn plesio? - Cafodd y tîm ei greu gan Tony Vlassopulos a Ken Grob ar ôl i'r tîm gwreiddiol Token cael ei gau yn 1973. Rondel Racing oedd wedi dechrau datblygu'r car Token ond collasant gefnogaeth ariannol allweddol yn 1973 a gorfod rhoi heibio datblygu'r Token.' Lloffiwr 19:54, 22 Mawrth 2008 (UTC)Ateb


1976: 'a hefyd deiars newydd'. Dwi ddim yn deall hwn yn iawn. Oedd pawb yn gorfod derbyn y teiars newydd (h.y. oedd hi'n reol rasio eu bod yn defnyddio'r teiars newydd?), ynteu ai dim ond y teiars newydd a gai eu cynhyrchu? (Fel y gwelwch o'r uchod dwi ddim yn gwybod llawer am rasio ceir!) Lloffiwr 16:45, 17 Chwefror 2008 (UTC)Ateb

Newidiad yn yr rheolau oedd yr achos am yr teiars newydd. AlexJ 16:58, 17 Chwefror 2008 (UTC)Ateb
Diolch. Ydy hyn yn iawn: 'Daeth newidiadau i'r rheolau, yn gorfodi timau i ostwng y bocs-aer ar eu ceir a symyd yr adain gefn ymlaen, ac i ddefnyddio teiars o fath newydd. Wedi'r newidiadau hyn, collodd...' ? Lloffiwr 18:58, 17 Chwefror 2008 (UTC)Ateb
Ie, does dim 'ambiguity' yn yr brawddeg newydd. AlexJ 23:39, 17 Chwefror 2008 (UTC)Ateb
Wedi newid. Lloffiwr 16:10, 24 Chwefror 2008 (UTC)Ateb

Byrfoddau yn y tabl canlyniadau. Ai byrfoddau'r FIA sydd yn y tabl Saesneg o'r canlyniadau? Os mai 'te, ydy hi'n well peidio â'u cyfieithu? Lloffiwr 19:02, 17 Chwefror 2008 (UTC)Ateb

Mae'r Wikipedia Saesneg yn defnyddio system 'proprietary' ar gyfer yr byrfoddau. Nad yw'r system yr FIA yn addas oherwydd mae'r rasus cynnar gyda ond un llythur (e.e. F - France, J - Japan, D - Germany) rhai eraill gyda dau (BR - Brazil, GB - Great Britain) a'r leill tri. Sai'n siwr os dylwn ni defnyddio system arall (system yr International Olympic Committee effallai?) AlexJ 23:39, 17 Chwefror 2008 (UTC)Ateb
Gan y bydd y pwynt yma yn siwr o godi eto ar erthyglau eraill mentraf godi'r cwestiwn ar y Caffi. Lloffiwr 16:36, 24 Chwefror 2008 (UTC)Ateb


Cyfle arall i ddangos fy anwybodaeth o rasio ceir! Beth yw'r gwahaniaeth rhwng qualify a pre-qualify? Mae hwn yn ran o'r nodyn ar yr allwedd i'r canlyniadau rasio. Ife llwyddo yn y ras rhagbrofol yw 'qualify' a llwyddo i gyrraedd y ras rhagbrofol (pasio'r 'scrutineering') yw 'pre-qualify'? Lloffiwr 17:22, 22 Mawrth 2008 (UTC)Ateb

Dydw i ddim yn hollol siwr sut yr oedd pethay yng nghyfnod Tom Pryce, ond yn gyffredinol, y "qualifying" sy'n penderfynu safle'r gyrrwr ar y grid i ddechrau'r ras go-iawn. Mae'r gyrrwyr sydd wedi cofnodi'r amser cyflymaf yn y rhes flaen. Am y "pre-qualifying" yn y cyfnod hwnnw, dydw i ddim yn siwr - rwy'n meddwl ei fod yn fater o gofnodi amser digon da i gael cymeryd rhan yn y ras. Rhion 17:41, 22 Mawrth 2008 (UTC)Ateb
Wedi cyfieithu 'did not qualify' i 'heb ennill lle yn y ras' a 'did not pre-qualify' i 'heb ennill lle yn y rhagbrawf'. Os cawn wybod yn wahanol gallwn newid y cyfieithiad, glei. Lloffiwr 19:16, 22 Mawrth 2008 (UTC)Ateb
Mae esboniad byr o'r system 'pre-qualifying' ar gael ar Wicipedia Saesneg. Pre-qualifying oedd qualifying arbennig i'r ceir gwaethaf i cael ennill lle yn yr qualifying go iawn. AlexJ 01:15, 24 Mawrth 2008 (UTC)Ateb
Diolch Alex. Yn bwriadu newid 'heb ennill lle yn y rhagbrawf' i 'heb ennill lle yn yr ail ragbrawf.' Oes cynnig arall ar gyfieithu hwn?
Wedi gwneud. Lloffiwr 11:08, 30 Ebrill 2008 (UTC)Ateb

Mae'n ymddangos nad yw'r gwefan ar gyfer y ddolen 'Tom Pryce profile at GPRacing.net' yn gweithio, o leiaf ar hyn o bryd. Lloffiwr 20:45, 22 Mawrth 2008 (UTC)Ateb

Yn gweithio nawr. Lloffiwr 11:02, 30 Ebrill 2008 (UTC)Ateb

Rydym yn ail-adrodd bod Cyngor Rhuthun am adeiladu cofeb i Tom Pryce ar ben yr erthygl ac yna ar waelod yr erthygl. Ydy hwn yn bwynt digon pwysig i haeddu lle yn y paragraffau sy'n cyflwyno'r erthygl? Lloffiwr 21:31, 22 Mawrth 2008 (UTC)Ateb

Dim ymateb eto i'r drafodaeth ar fyrfoddau gwledydd ar y Caffi. Lloffiwr 11:02, 30 Ebrill 2008 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Tom Pryce".