Sgwrs:Ulster

Latest comment: 5 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Symud i Wlster

Symud i Wlster golygu

Awgrymaf symud yr erthygl hon i Wlster. Ceir y cyfieithiadau Wledd, Wlaidd, a Wleth yng Ngeiriadur yr Academi, sy'n ceisio adlewyrchu'r ynganiad Gwyddeleg, ond tybiaf taw Wlster sy'n fwyaf cyfarwydd i siaradwyr Cymraeg. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 16:28, 4 Mai 2012 (UTC)Ateb

Ar y llaw arall, mae Geiriadur y Brifysgol yn defnyddio'r sillafiad Ulster yn y diffiniadau ar gyfer Wlsteriad ac Wlsteraidd, gan Gymreigio'r ffurfiau sy'n tarddu o'r enw ond nid yr enw lle ei hun. Mae Golwg360 a'r rhaglen Clwb Rygbi yn defnyddio Ulster am y tîm rygbi. Unrhyw farnau? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 20:59, 7 Ebrill 2019 (UTC)Ateb
Fy marn i yw fod 'Ulster' yn fwy naturiol; mae na arlliw synthetig, bron, ar fathiadau / Cymreigiadau fel 'awtomatig' neu 'wlster', 'agerdreiglydd' yn lle 'injan stem', 'allbwff' am 'beipan fwg'. Ac os oes hefyd sel bendith gan GPC, yna cytunaf efo Adda'r Yw. Ond dw i'n falch hefyd fod cyfeiriad at y ddwy sillafiad yng nghorff yr erthygl. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:44, 10 Ebrill 2019 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Ulster".