Sgwrs:Y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru

Latest comment: 3 blynedd yn ôl by Dani di Neudo in topic teitl anaddas


Untitled golygu

Fe all yr erthygl yma naill ai fod yn grynodeb o'r prif ddigwyddiadau neu'n gofnod llawn. Efallai fod angen y ddau: y crynodeb yn gynatf, a'r cofnod llawn yn dilyn? Neu dwy erthygl wahanol. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:45, 15 Ebrill 2020 (UTC)Ateb

Mae'n ymddangos i mi fod yr erthygl yn ddefnyddiol yn ei ffurf bresennol. Ta beth, dyma'r dyddiadur dw i'n dal i ddod yn ôl ato. Yn y cyflwr rhyfedd rydyn ni'n byw ynddo ar hyn o bryd, mae'n ddefnyddiol atgoffa fy hun pryd y digwyddodd y digwyddiad hwn neu pryd y pasiwyd y pwynt hwnnw. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. --Craigysgafn (sgwrs) 08:37, 15 Ebrill 2020 (UTC)Ateb
Fi just wedi bod yn ychwanegu gwybodaeth o amserlen ar BBC Cymru Fyw [1] gan ddilyn y fformat rhoddwyd o blaen. Rwy'n cytuno gyda ti, mae'r erthygl yma yn ddefnyddiol i weld yr holl ddyddiadur. Dwi'n credu mai'n dda hefyd i weld fe yn y fformat yma gyda linciau i erthyglau newyddion, sy'n mynd i mewn i fwy o fanylder. Ond hefyd dwi'n credu bydd yn dda i ysgrifennu erthygl newydd sy'n rhoi crynodeb efallai mewn trefn effaith ar sectorau gwahanol e.e. addysg. Ond yn wir dwi'n credu'r erthygl yma sy'n dangos y crynodeb a gellir enwi fel 'Llinell amser o'r effaith Y Gofid Mawr (GOVID-19) ar Gymru rhwng Rhagfyr 2019- Presennol.' Gelli'r ychwanegu graffiau a tablau at y ddwy erthygl. Cwmcafit (sgwrs) 12:19, 15 Ebrill 2020 (UTC)Ateb
Gret; mi adawn hi fel y mae, felly. Ac fel ti'n dweud, Cwmcafit, gallwn greu fforch bob yn hyn a hyn ee mi faswn wrth dy modd pe bawn yn medru cel db i greu graff o farwolaethau dydiol, a'i gymharu gyda dau neu dri o wledydd erill ee yr Eidal. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:59, 15 Ebrill 2020 (UTC)Ateb
Cytuno fod angen y ddau beth - crynodeb o'r prif ddigwyddiadau ar y dudalen hon a chofnod swmpus ar dudalen newydd ee Llinell amser o'r Cofid Mawr yng Nghymru. Gyda llaw dydw i heb ddod ar draws y term 'Y Gofid Mawr ar unrhyw wefan arall. Celtica (sgwrs) 15:51, 14 Mai 2020 (UTC)Ateb
Ma' Gofid Mawr yn enw unigryw iawn a dwi'n ei hoffi! Mae'r arwyddocâd i'r ansoddair Gofid yn glir. Ac mae Gwalia Media yn ei ddefnyddio. [2] Cwmcafit (sgwrs) 20:08, 14 Mai 2020 (UTC)Ateb

Dyma fy awgrymiadau ar sut i ail-drefnu'r dudalen yma:

  • 1. Ail-ysgrifennu'r cyflwyniad i fod yn fwy cyffredinol a dileu gwybodaeth gyda dyddiadau sydd nawr yn hen newyddion - gellir symud y wybodaeth i'r linell amser os nad yw yno'n barod.
  • 2. Fe alla'i rhoi y crynodeb ystadegau o Nifer yr achosion o'r Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru mewn i Nodyn a chynnwys hwn wedi'r cyflwyniad yn hytrach na'r graff.
  • 3. Yr adran gyntaf i fod yn 'Linell Amser', gyda dolen i brif erthygl (newydd) sydd yn cynnwys yr holl gofnodion. Awgrym teitl 'Amserlen y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru'. Wedyn cael crynodeb o'r linell amser gyda un neu ddau paragraff ar gyfer pob mis.
  • 4. Ail adran i fod yn 'Ymateb' neu 'Ymateb gwleidyddol', sydd yn cynnwys manylion am yr ysbytai maes (gweler enwiki), ac efallai cynnwys yr adrannau am diffyg offer a profion - er mae'r adrannau yma yn rhy benodol i gyfnod penodol ac mae pethau wedi newid mor gyflym fel nad ydyn nhw'n berthnasol rhagor. Efallai bo nhw'n well yn y linell amser gyda gair yn y grynodeb.
  • 5. Y drydedd adran i fod yn 'Ystadegau' gyda cyflwyniad byr a dolen i'r brif erthygl sef y dudalen ystadegau. Awgrymu ail-enwi'r dudalen 'Nifer yr achosion' yn 'Ystadegau y Gofid Mawr yng Nghymru' --Dafyddt (sgwrs) 18:25, 14 Mai 2020 (UTC)Ateb
Cytunaf bod angen creu'r tudalen yma yn un 'slimeline' fel petai. Ac un newydd gyda'r amserlen llawn. Mi fydd yr tudalen yma yn rhoi blas ar y prif straeon dros y cyfnod. Dwi'n cytuno gyda rhoi 'ymateb gwleidyddol'. Efallai awgrym yw creu adranau penodol i effeithiau ar wahanol bethau e.e. addysg. Ond yr peth yw gyda hwnnw yw bydd ni'n colli'r elfen o llinell amser (ond drwy creu tudalen newydd mi fyddwn yn cadw'r elfen yma).Cwmcafit (sgwrs) 20:08, 14 Mai 2020 (UTC)Ateb
Cytuno! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 05:43, 11 Mehefin 2020 (UTC)Ateb

Poblogi'r tudalen gyda lluniau golygu

Amser roeddwn yn diweddaru'r tudalen heddiw roeddwn yn sylwi bod yr erthygl yn edrych yn weddol lwm ar faint o luniau sydd arno. Felly bydd yn syniad da i boblogi'r tudalen gyda lluniau yn ymwneud a'r firws a'r effaith a'r Gymru. Bydd hyn yn gwneud yr erthygl yn un cynhwysfawr fel cofnod o'r digwyddiadau a'r effaith. Cwmcafit (sgwrs) 17:17, 25 Ebrill 2020 (UTC)Ateb

Marwolaethau yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol golygu

Shwmae, gwnes i graff o'r marwolaethau yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar y tudalen Saesneg (en:COVID-19 pandemic in Wales#ONS excess mortality data). Ydy'r graff yn defnyddiol ar y tudalen Cymraeg? (sori...dysgwr dw i!) Pilchard (sgwrs) 01:29, 11 Mehefin 2020 (UTC)Ateb

@Pilchard: Licio'r graff! Yr excess yw'r ffordd mwyaf cywir o roi amcangyfrif o nifer y marwolaethau, ac mae hwn yn dangos hynny, o ddydd i ddydd. Yr unig beth ar goll, efallai, yw'r ffigwr crynhous hwnnw, sef cyfanswm marwolaethau eleni, minws cyfanswm y llynedd. Ia, plis ychwanega'r graff! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 05:52, 11 Mehefin 2020 (UTC)Ateb
Diolch, dw i wedi ychwanegu'r graff ar y tudalen ystadegau. Dylai rhywun sy'n gallu siarad Cymraeg yn well na fi ysgrifennu'r dysgrifiad! Pilchard (sgwrs) 19:32, 11 Mehefin 2020 (UTC)Ateb

teitl anaddas golygu

Enw hollol answyddogol yw "Y Gofid Mawr", heb yn ei ddefnyddio'n aml gan y wasg, er enghraifft. Dw i'n awgrymu newid yr enw i COVID-19 yng Nghymru, ond yn nodi bod nifer o bobl yn defnyddio'r enw "y Gofid Mawr" i gyfeirio ato fo. --Dani di Neudo (sgwrs) 10:04, 13 Ionawr 2021 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru".