Sgwrs Categori:Gweinidogion Cyntaf

Latest comment: 16 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic Archif

Archif golygu

Dyma'r drafodaeth o Gatori:Gweinidogion Cyntaf Cymru cyn ei ddileu:

Prif Weinidog Cymru yw'r teitl Cymraeg swyddogol, er bod First Minister yn cael ei ddefnyddio yn Saesneg. Does neb yn cyfeirio at Rodri Morgan fel 'Gweinidog Cyntaf Cymru', gan gynnwys fo ei hun a'i lywodraeth. Mae 'Categori:Prif Weinidogion Cymru' eisoes yn bod. (Yn yr un ffordd, 'Dirpwy Prif Weinidog' yw Ieuan Wyn Jones, nid 'Dirprwy Gweinidog Cyntaf'.) Anatiomaros 14:17, 29 Awst 2007 (UTC)Ateb

Hyd 2000 'Prif Ysgrifennydd Cymru' (First Secretary for Wales) oedd y teitl (gweler Prif Weinidog Cymru). Alun Michael oedd y cyntaf ac yna Rhodri Morgan am gyfnod byr iawn (ychydig o wythnosau, dwi'n credu) cyn i'r enw newid i 'Brif Weinidog Cymru'. Felly dwi'n awgrymu naill ai newid hyn i 'Prif Ysgrifennydd Cymru' (categori o ddau, am byth!) neu ei ddileu. Gellid rhoi Categori:Prif Weinidog Cymru yn y categori 'Gweinidogion Cyntaf' efallai (i gael dolen rynwici). Anatiomaros 14:25, 29 Awst 2007 (UTC)Ateb

Cytuno i ddileu'r categori di-angen hwn. —Adam (sgwrscyfraniadau) 20:27, 6 Hydref 2007 (UTC)Ateb

Rhoddwyd yma gan Anatiomaros 22:34, 5 Rhagfyr 2007 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Gweinidogion Cyntaf".