Llenor Iddewig a ymfudodd o Wlad Pwyl i'r Unol Daleithiau oedd Sholem Asch (1 Tachwedd 188010 Gorffennaf 1957) sy'n nodedig am ei nofelau, dramâu, a straeon byrion yn yr iaith Iddew-Almaeneg.

Sholem Asch
Ganwyd1 Tachwedd 1880, 1 Ionawr 1880 Edit this on Wikidata
Kutno Edit this on Wikidata
Bu farw10 Gorffennaf 1957 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Gwlad Pwyl, Israel, Ymerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd Edit this on Wikidata
Arddullstori fer, nofel, drama Edit this on Wikidata
PlantMoses Asch, Nathan Asch Edit this on Wikidata
PerthnasauMenachem Mendel Szpiro Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Llyfr Anisfield-Wolf Edit this on Wikidata

Ganed i deulu mawr o Iddewon tlawd yn Kutno yng nghanolbarth Gwlad Pwyl, Ymerodraeth Rwsia. Mynychodd yr ysgol Hebraeg yn Kutno. Symudodd i Warsaw yn 1899 a chyhoeddodd ei stori gyntaf, yn Hebraeg, yn 1900. Ar gyngor yr awdur I. L. Peretz, penderfynodd Sholem ysgrifennu drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg yn unig. Ei waith cyntaf i'w gyhoeddi yn yr iaith honno oedd y nofel Dos Shtetl (1905). Mae ei straeon a dramâu o'r cyfnod hwn yn ymwneud â bywyd trasicomig y shtetl a'r gwrthdaro rhwng y traddodiadau Iddewiaeth a'r mudiad i ryddfreinio'r Iddewon.

Ymwelodd Asch â'r Unol Daleithiau yn 1910, a symudodd yno i fyw yn 1914. Derbyniodd ddinasyddiaeth Americanaidd yn 1920. Fel aelod newydd o gymuned Iddew-Almaeneg yr Unol Daleithiau, ysgrifennodd sawl nofel am brofiadau diwylliannol ac economaidd mewnfudwyr Iddewig o Ddwyrain Ewrop. Dychwelodd yn aml i Ewrop ac aeth ar sawl taith i Balesteina. Yng nghyfnod olaf ei yrfa, ceisiodd uno themâu a syniadau Iddewig a Christnogol yn ei ffuglen. Cafodd ei gondemnio gan rai o'i gyfoedion am ei ymdriniaeth o grefydd yn ei waith. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn Bat Yam, Tel Aviv, Israel. Bu farw yn Llundain yn 76 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Sholem Asch. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Tachwedd 2019.