Siôn Conwy

Llenor a noddwr beirdd

Llenor a noddwr beirdd o Sir Ddinbych yng ngogledd Cymru oedd Siôn Conwy neu Siôn Conwy III (c. 1546 - Rhagfyr 1606).[1] Roedd yn aelod o deulu'r Conwyaid, un o deuluoedd uchelwrol mawr y Gogledd, gyda phlasdy ym Motryddan, ger Rhuddlan. Ei dad oedd Siôn Conwy II, Aelod Seneddol Sir y Fflint.

Siôn Conwy
Ganwyd1546 Edit this on Wikidata
Bu farwRhagfyr 1606 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfieithydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Yn uchelwr diwylliedig, roedd aelwyd Siôn Conwy yn agored i'r beirdd, a cheir cerddi mawl iddo gan sawl un o Feirdd yr Uchelwyr, gan gynnwys Simwnt Fychan a Siôn Tudur.[2]

Cyfieithodd Siôn Conwy ddau draethawd i'r Gymraeg. Mae Klod Kerdd Dafod a'i Dechryad ("Clod Cerdd Dafod a'i Dechreuad") yn gyfieithiad o draethawd Lladin y Sais John Case, Apologia Musices (1588). Mae'r ail draethawd, Definiad i Hennadirion, yn gyfieithad o'r gwaith crefyddol A Summons for Sleepers (1589).[2]

Bu farw Siôn Conwy yn Rhagfyr 1606 a chafodd ei gladdu ar 23 Rhagfyr yn eglwys Rhuddlan.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Alfred Owen Hughes Jarman; Gwilym Rees Hughes (1976). A Guide to Welsh Literature: c.1530-1700 (yn Saesneg). C. Davies. t. 257. ISBN 978-0-7083-1400-5.
  2. 2.0 2.1 2.2 Enid Roberts, Gwaith Siôn Tudur, cyfrol II (Caerdydd, 1980), tud. 18.