Sidney Griffith

Diwygiwr crefyddol o Sir Conwy

Diwygiwr crefyddol o Sir Conwy oedd Sidney Griffith (née Wynne; m. 1752) a alwyd weithiau'n "Madam Griffith".[1]

Sidney Griffith
Bu farw31 Mai 1752 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpregethwr Edit this on Wikidata

Teulu golygu

Roedd Sidney yn ferch i Cadwaladr Wyn o'r Foelas yn Ysbyty Ifan[2], a galwyd hi ar ôl ei nain Sidney Thelwall o Blas-y-ward). Priododd tua 1741 â William Griffith o Gefnamwlch[3], un o Siryfion Sir Gaernarfon yn yr 17eg ganrif a meddwyn na allai hi ddygymod ag ef. Ganwyd iddynt fab yn 1742.[4]

Troedigaeth golygu

Efallai oherwydd meddwdod ei gŵr, trodd at grefydd yn 1746, pan glywodd bregeth gan Peter Williams. Cyflwynwyd hi i Howel Harris ddechrau Hydref 1748, yn Llŷn a Daniel Rowland yng ngwanwyn 1749, yn Llangeitho aeth a aeth â hi i'r sasiwn yn Errwd ar 1 Chwefror ac oddi yno i Drefeca.

Mae bur debyg iddi gael affer gyda Harris, a bu'n byw gydag ef a'i wraig am flynyddoedd. Erbyn Medi v, yr oedd amgylchiadau Mrs. Griffith yn faich ar Harris — ni chynhaliai ei gŵr mohoni, a bu'n rhaid i Harris dalu drosti a gofalu am addysg ei mab. Erbyn dechrau 1752, yr oedd ei hiechyd wedi gwaethygu'n ddirfawr, ac aeth Mrs. Harris â hi i Lundain a'i rhoi yng ngofal ei brawd Watkin Wyn; bu hi farw yno 31 Mai 1752. Rhoddodd Sidney Griffith swm mawr (tua £900) i Harris at sefydlu Trefeca[5]. Cododd perthynas y ddau yn ystod achos ynglŷn â'i hewyllus, ac mae dyddlyfrau Harris yn y blynyddoedd hyn yn cynnwys llawer ymadrodd amheus iawn. Dywed Richard Bennett fod ‘pobl tua Chaerfyrddin yn gwneud gogan-gerddi am Harris', a'i fod yn un (ond yn un yn unig) o achosion yr ymraniad ymysg y Methodistiaid o 1750 ymlaen.

Cyfeiriadau golygu

  1. Jenkins, R. T., (1953). GRIFFITH, SIDNEY (‘Madam Griffith '; bu farw 1752). Y Bywgraffiadur Cymreig adalwyd 9 Medi 2019.
  2. J. E. Griffith, Pedigrees, 326; gweler yr ysgrif ar y teulu
  3. J. E. Griffith, op. cit., 169; gweler yr ysgrif ar y teulu
  4. Dyddiad marw: https://biography.wales/article/s-GRIF-SID-1752. Y Bywgraffiadur Cymreig. dyddiad cyrchiad: 9 Ionawr 2019.
  5. M. H. Jones, gw. The Trevecka Letters, 188)