Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Lincoln, Dwyrain Canolbarth Lloegr, ydy Sixhills.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Gorllewin Lindsey. Saif i'r de o'r A631, oddeutu 3 mile (4.8 km) i'r de-ddwyrain o Market Rasen ar y ffordd i Ludford.

Sixhills
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Gorllewin Lindsey
Daearyddiaeth
SirSwydd Lincoln
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.3666°N 0.2416°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04006046 Edit this on Wikidata
Cod OSTF170869 Edit this on Wikidata
Map

Cynlluniawyd yr eglwys leol, sef Eglwys yr Holl Seintiau, gan James Fowler (1869 ac 1875).[2]

Ar un adeg bu yma briordy o Urdd Gilbert, a sefydlwyd yn y 14g: Priordy'r Santes Fair. Mae lleiandy gerllaw'r safle yn dal i sefyll.[3] Ar orchymyn Edward I gyrrwyd Gwladys ferch Dafydd ap Gruffudd yno, lle bu farw yn 1336. Talodd y brenin £20 y flwyddyn am ei chadw.[4][5] yma hefyd y carcharwyd Christina Seton, chwaer Robert I, brenin yr Alban (Robert the Bruce) a gwraig Syr Christopher Seton a ddienyddiwyd hefyd gan Edward I. Bu'n lleian yma rhwng 1306 a 1314.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan UK Towns List Archifwyd 2013-06-25 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 3 Mai 2013
  2. "Church of All Saints" Archifwyd 2012-10-18 yn y Peiriant Wayback., National Heritage List for England, English Heritage. Adalwyd 2011.
  3. Page, W (editor) (1906). "Houses of the Gilbertine order: The priory of Sixhills, A History of the County of Lincoln". tt. 194–195. Cyrchwyd 2014. Check date values in: |accessdate= (help)CS1 maint: extra text: authors list (link)
  4. Princes of Gwynedd Archifwyd 2013-06-13 yn y Peiriant Wayback., princesofgwynedd.com. Adalwyd 2014.
  5. british-history.ac.uk; adalwyd Tachwedd 2015
  6. www.thelittlehouseiusedtolivein.wordpress.com; adalwyd Tachwedd 2015
  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Lincoln. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.