Creadur chwedlonol y ceir straeon amdanynt yn llên gwerin Cernyw yw'r Spriggan (Cernyweg).

Spriggan: cerflun diweddar yn Llundain

Yn ôl y chwedl, mae'r spriggan yn greadur hyll ofnadwy, sydd i'w ganfod mewn hen adfeilion neu mewn twmpathau yn gwarchod trysor cudd. Roedd ganddynt enw am fod yn lladron eiddgar hefyd. Er yn fychan o gorff fel rheol, roeddent yn medru tyfu i faint anferth weithiau. Mae'r cysylltiad â thwmpathau, gwarchod trysor, a maintioli mawr yn eu gwneud yn debyg i'r trol yn nhraddodiadau Llychlyn.

Roedd ganddynt dymer drwg ac roeddent yn barod bob tro i fod yn ddrygionus, yn enwedig wrth rywun a'u digiai. Credid eu bod yn anfon ystormydd i ddifetha cnydau ac weithiau roeddent yn cipio plant bach a gadael plentyn cyfnewid yn eu lle: mewn hyn o beth roeddent yn debyg i'r Tylwyth Teg yng Nghymru a sawl gwlad arall.

Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am Gernyw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato