Dinas yn yr Alban yw Stirling[1] (Gaeleg yr Alban: Sruighlea;[2] Sgoteg: Stirlin),[3] sy'n brifddinas ardal cyngor Stirling. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 41,243; y ddinas leiaf yn yr Alban.

Stirling
Mathdinas, large burgh Edit this on Wikidata
Poblogaeth37,610 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBudapest District III Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirStirling Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Yn ffinio gydaCallander Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau56.1166°N 3.9369°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS20000472, S19000589 Edit this on Wikidata
Cod OSNS795935 Edit this on Wikidata
Cod postFK7, FK8, FK9 Edit this on Wikidata
Map

Saif y ddinas o amgylch Castell Stirling, ar fryn sydd wedi bod o bwysigrwydd strategol ers o leiaf cyfnod y Rhufeiniaid. Credir mai Stirling oedd caer Iuddeu neu Urbs Giudi, lle gwarchaewyd ar Oswiu, brenin Northumbria gan Penda, brenin Mersia yn 655.

Stirling oedd y man isaf lle gellid croesi Afon Forth, ac mae ar y ffin rhwng Iseldiroedd ac Ucheldiroedd yr Alban. Ymladdwyd nifer o frwydrau yma, yn cynnwys buddugoliaeth William Wallace dros y Saeson ym Mrwydr Pont Stirling a buddugoliaeth Robert Bruce dros fyddin Edward II, brenin Lloegr ym Mrwydr Bannockburn.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Canolfan Thistles
  • Castell Stirling
  • Cofadeilad Cunninghame Graham
  • Eglwys Gadeiriol Dunblane
  • Gorsaf Stirling
  • Y Raploch
 
Castell Stirling o'r de-orllewin

Enwogion golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 6 Hydref 2019
  2. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2019-10-06 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 6 Hydref 2019
  3. "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 10 Ebrill 2022