Storlok

grŵp roc Llydaweg

Band roc o Bro-Leon, Llydaw yw Storlok, neu Pempbiz bellach. Fe'i ffurfiwyd ym 1976 gan y cantorion Denez Abernot a Bernez Tangi. Storlok oedd y band roc cyntaf i ganu yn Llydaweg yn unig.

Storlok
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladLlydaw Edit this on Wikidata
Label recordioNévénoé, Coop Breizh Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1976 Edit this on Wikidata
Genrecanu Llydaweg, roc Llydewig Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBernez Tangi, Denez Abernot, Bob Simon, Mona Jaouen, Christian Desbordes Edit this on Wikidata
SylfaenyddDenez Abernot, Bernez Tangi Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://storlok.com Edit this on Wikidata

Er gwaethaf mai am gyfnod byr y buon nhw'n perfformio, mae'r grŵp yn cael ei ystyried yn ddylanwad pwysig gan lawer o grwpiau Llydaweg presennol. Mae ei holl aelodau wedi cael gyrfaoedd pwysig yn y byd diwylliannol Llydaweg [1] .

Hanes y grŵp golygu

Ffurfiwyd y grŵp ym Mro Leon yn sgil cyfarfod Bernez Tangui a Denez Abernot, a galwyd y grŵp yn Storlok ("twrw" yn Llydaweg). Roedd naw cerddor ifanc yn rhan o'r grŵp. Dyma'r tro cyntaf, ar ôl Alan Stivell, i roc a Llydaweg ddod at ei gilydd. Roedd y geiriau'n ffitio i mewn i gymdeithas gyfoes tra'n cadw'r ymdeimlad o werthoedd milwriaethus [2]. Wedi blynyddoedd lle bu'n anodd cael gafael arno, cafodd eu halbwm cyntaf, Stok ha Stok, a ryddhawyd ym 1979 ar label Névénoé yn wreiddiol, ei ailgyhoeddi ar gryno ddisg gan Coop Breizh yn 2002.

Yn 2011, fe wnaeth Bernez Tangi, Philippe Abalain Philippe "Abalip" Abalain, Gildas Beauvir, Bertrand Floc'h ac Yvon Gouez ail-ffurfio'r grŵp dan yr enw Pempbiz. Yr un flwyddyn, fe wnaethant ryddhau record plant (Pempbiz), ac yna albwm newydd yn 2015 (Karantez, marv ha faltazi), a thrydydd yn yn 2020 (Taol biz troad)[3].

Dylanwadau golygu

Gwrandawodd Denez Prigent ar y grŵp a chafodd ei ysbrydoli gan y gwerzioù, a ysgrifennwyd gan y ddau ganwr, sy'n siarad am wahanol ffeithiau. Ar ei albwm cyntaf yntau ceir y caneuon Plac'h Landelo a ysgrifennwyd gan Bernez Tangi a Gwerz ar vezhinerien ("Gwerz y casglwyr gwymon”) a ysgrifennwyd gan Denez Abernot, ac mae'n ei pherfformio'n rheolaidd ar y llwyfan, megis yn ei berfformiad a cappella yn y Stade de France yn 2003[4].

Rhoddodd y gân Botoù-koad dre-dan ei henw i ffilm ddogfen 52-munud gan Soazig Daniellou (clywir y gân honno ar ddechrau'r ffilm a'r gân Kastell Rock ar y diwedd gyda'r rhestr gydnabod). Cynhyrchwyd y ffilm gan France 3 Bretagne yn 2017, ac mae'n adrodd hanes pobl ifanc o Fro-Leon yn y 1970au a ddechreuodd y grŵp theatr Ar vro bagan[5].

Prif ddylanwad Llydewig Nolwenn Korbell oedd Storlok[6]. Gwrandawodd y rociwr Brieg Guerveno ar y grŵp cyn lansio ei yrfa unigol yn roc Llydaweg (canodd fersiwn ei hun o Emgann Kergidu gan Bernez Tangi, ac ysgrifennodd gân arbennig iddo hefyd). Ysgrifennodd Rozenn Talec Keleier Notre-Dame yn Llydaweg, dan ysbrydoliaeth Keleier Plogoff.

Aelodau golygu

  • Denez Abernot — llais
  • Bernez Tangi — llais
  • Yvon Gouez — llais, gitâr (bu'n recordio artistiaid yn ei stiwdio Streat ar Skol, gan gynnwys Pempbiz)
  • Bob Simon — llais (actor yn y criw Ar Vro Bagan)
  • Mona Jaouen — llais (perfformiwr enwog)
  • Gildas Beauvir — gitâr drydan (yn ymroi i tango gyda'r grŵp Gorrion)
  • Philip "Abalip" Abalain — drymiau, ffliwt («Fulupik», deuawd gyda Clarisse Lavanant)
  • Bertrand Floc'h — gitâr, bas (cydymaith teithio'r artistiaid a gyfansoddodd Nevenoe)
  • Christian Desbordes — ffidil, piano (yn cyfarwyddo'r Ensemble choral du Bout du Monde)
  • Moris Ivin— organ

Hanes recordio golygu

Albymau stiwdio golygu

1979: Stok ha Stok, gan Storlok (Névénoé)

  1. Boutoù Koat Dre Dan
  2. Gwerz Ar Vezhinerien
  3. Gwerz Maro Jorj Jackson
  4. Marjanig
  5. Kastell Rock
  6. Ar C'hi En Dienn
  7. Evid Kaout An Arc'hant Hag Ar Galloud
  8. Ar Zorserez
  9. Keleier Plogoff
  • 2011: Pempbiz
  • 2015: Karantez, marv ha faltazi
  • 2020: Taol biz troad

EP golygu

1978: Gwerz an Dilabour / Gwerz maro Jorj Jackson, gan Storlok

Casgliadau golygu

  • 1996: St. Patrick Spirit
  • 2008: Rock e Breizh (Coop Breizh)
  • 2010: ROK #1 (1964/1989: 50 ans de musique électrifiée en Bretagne)
  • 2017: Thesaurus Vol.2 (rock / punk en France 1977/1979)
  • 2018: Kronstadt / Litovsk - UK Tour Tape 2018
  • 2019: Rock e Breizh vol.2 (Pempbiz)

Nodiadau a chyfeiriadau golygu

  1. Véronique Mortaigne (1994). "PRINTEMPS DE BOURGES Denez Prigent, chanteur breton" (yn fr-FR). Le Monde..
  2. "Yvon Gouez". ArMen: On s’est demandé à un moment donné si on allait pas être poursuivi en diffamation. ??..
  3. "Pempbiz : un troisième opus lumineux". Le Télégramme (yn Ffrangeg). 2020-08-29. Cyrchwyd 2022-03-02..
  4. Denez, le chant magnétique, par Laurent Jézéquel et Gilbert Carsouxt, 2018, Mille et Une Films / France Télévisions
  5. France 3 Bretagne (2017-04-24). "Bali Breizh - Documentaire "Botoù-koad dre-dan" (VOSTFR)". Cyrchwyd 2019-04-10.
  6. Collectif (dir. Frank Darcel); Jigourel, Thierry (2013). "Folk Songs". ROK (yn Ffrangeg). Rennes: LATDK. tt. 351–352, 480. ISBN 978-2-9543644-0-7. Rok..

Atodiadau golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • Choutet, Arnaud (2015). "Storlok - Stok ha Stok". Bretagne : folk, néo-trad et métissages. Marseille: Le Mot et Le Reste. tt. 80–81, 304. ISBN 2360541587.

Fideo golygu

  • Bernez Tangi, plijadur an ijin (Pleser y dychymyg), ffilm ddogfen gan Mikael Baudu, 2020, France Télévisions, gwylio 26 munud ar-lein

Dolenni allanol golygu