Stryd Lydan, y Drenewydd

Stryd hanesyddol yng nghanol y Drenewydd, Powys, un o'r prif strydoedd masnachol yng nghanol y dref, gyda nifer o adeiladau rhestredig, yw Stryd Lydan (Saesneg: Broad Street).

Stryd Lydan, tuag at adeiladau'r Cross, ar y gyffordd rhwng Stryd Hafren a'r Stryd Fawr

Lleoliad golygu

Mae Stryd Lydan yn rhedeg o'r de i'r gogledd yng nghanol y Drenewydd, o'r groesffordd gyda'r Stryd Fawr, Stryd Hafren a Stryd y Bont Fer i'r bont hir dros yr afon Hafren.

Hanes golygu

Mae Stryd Lydan wedi bod yn safle marchnad y dref ers yr Oesoedd Canol. Tan ganol y 19eg ganrif fe oedd neuadd farchnad yng nghanol y stryd [1] (mae neuadd farchnad yn sefyll bellach ar y Stryd Fawr).

Yn 1832, adeiladwyd yr hen Gyfnewidfa Wlanen ac Ystafelloedd Cynulliad (Saesneg: Flannel Exchange and Assembly Rooms) ar ôl cynllun gan Thomas Penson, mewn ymgais i gipio'r farchnad wlanen oddi ar y Trallwng. [2] Yn 1920, cafodd yr adeilad ei drawsnewid yn sinema. [2] Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg cynnar adeiladwyd gwesty'r Elephant & Castle gyferbyn â'r gyfnewidfa wlanen, ger y bont hir.

Cafodd Robert Owen ei eni mewn siop ar Stryd Lydan yn 1771. [3]

Disgrifiad golygu

Yn ogystal â'r Stryd Fawr, mae Stryd Lydan yn un o brif strydoedd masnachol y dref, gyda nifer o siopau, tafarnau a bwytai. Mae'r rhan fwyaf o'i hadeiladau yn dyddio'n ôl i'r 19eg ganrif o leiaf, gyda rhai ohonyn nhw (er enghraifft gwesty'r Black Boy) hyd yn oed yn hyn na hyn. Mae adeiladau hanesyddol o bwys yn cynnwys:

  • yr hen Gyfnewidfa Wlanen (heddiw Sinema'r Regent) ger y bont hir dros yr Hafren;
  • gwesty'r Elephant & Castle gyferbyn â'r Sinema;
  • tafarndai'r Black Boy a Castle Vaults ar ochr orllewinol y stryd;
  • amgueddfa Robert Owen, ar y groesffordd gyda Stryd Hafren.

Mae llawer o'r adeiladau hyn yn adeiladau rhestredig.

Mae mynedfa i ganolfan siopa 'Bear Lanes' ar Stryd Lydan hefyd. Mae'r ganolfan siopa wedi cael ei ymgorffori'n effeithiol i'r tirlun trefol, gyda ffasâd du a gwyn neo-Duduraidd.

Mae golygfa i'r gogledd, tuag at y faestref dros yr afon a'r bryniau o gwmpas y dref. Mae'r olygfa i'r de yn cael ei dominyddu gan adeiladau'r Cross (Saesneg: the Cross Buildings) ar gornel stryd Hafren a Stryd y Bont Fer.

  1. "Victorian Newtown - Broad Street in 1846". history.powys.org.uk. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2023.
  2. 2.0 2.1 "Former Flannel Exchange and Assembly Rooms, Newtown and Llanllwchaiarn". British Listed Buildings. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2023.
  3. "A brief history: Newtown". Newtown.org.uk. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2023.