Tŵr Wardenclyffe

Gorsaf drawsyrru diwifr arbrofol ym mhentref Shoreham, Long Island, yn nhalaith Efrog Newydd, Unol Daleithiau America, oedd Tŵr Wardenclyffe. Cafodd y tŵr ei ddylunio a'i adeiladu yn 1901–2 gan Nikola Tesla, y peiriannydd trydanol, yn sgil arbrofion a oedd wedi gwneud yn y 1890au cynnar. Roedd gan Tesla nod o ddatblygu system trawsyrru pŵer diwifr a oedd yn defnyddio'r Ddaear ei hun i ddargludo signalau trydanol er mwyn cystadlu â system radio-telegraffi a ddyfeisiwyd gan Guglielmo Marconi. Nid yw manylion llawn ei ddeunyddiau a'i adeiladwaith yn hysbys bellach, ond roedd ganddo 187 troedfedd o daldra. Ei bwrpas oedd trosglwyddo negeseuon ar draws Cefnfor yr Iwerydd ac i longau ar y môr.[1][2]

Tŵr Wardenclyffe
MathLabordy Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadShoreham, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
SirBrookhaven, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Cyfesurynnau40.9476°N 72.8982°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethlleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddmetel Edit this on Wikidata

Fodd bynnag, nid oedd Tesla yn gallu codi digon o gefnogaeth ar gyfer y prosiect, a rhoddwyd y gorau iddo ym 1906, ac ni ddaeth byth i weithrediad. Mewn ymgais i gwrdd â dyledion Tesla, cafodd y tŵr ei ddymchwel ar gyfer metel sgrap ym 1917 a chymerodd ei ddyledwyr feddiant o weddill y safle, a oedd yn ymestyn i 200 erw (81 ha), ym 1922. Am y 50 mlynedd dilynol, roedd Wardenclyffe yn sefydliad yn cynhyrchu cyflenwadau ffotograffiaeth.

Tŵr Wardenclyffe ym 1904

Cyfeiriadau golygu

  1. (yn en) Nikola Tesla's True Wireless: A Paradigm Missed. doi:10.1109/JPROC.2018.2827438. https://ieeexplore.ieee.org/document/8365923.
  2. W. Bernard Carlson (2013). Tesla: Inventor of the Electrical Age (yn Saesneg). Princeton University Press. t. 209.

Dolen allanol golygu