Tŷ Mawr y Castell

tŷ mewn tref rhestredig Gradd I yn Nhrefynwy

Tŷ trefol sy'n deillio'n ôl i 1673 ydy Tŷ Mawr y Castell (Saesneg: Great Castle House) sydd wedi'i leoli yng nghanol tref Trefynwy yn Sir Fynwy, De Cymru. Saif ger Sgwâr Agincourt. Mae rhan o'r tŷ ar dir Castell Trefynwy ac mae wedi'i gofrestru fel adeilad hynafol Gradd I[1].

Tŷ Mawr y Castell
Mathtŷ mewn tref Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1673 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrefynwy Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr30.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8127°N 2.7164°W Edit this on Wikidata
Cod postNP25 3BS Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddold red sandstone Edit this on Wikidata

Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas). Mae rhai'n honi mai dyma adeilad pwysicaf y dre, oherwydd ei bensaerniaeth unigryw.

Fe'i ddisgrifiwyd un tro fel tŷ "hynod o rodresgar a ffansi"[2] a chafodd ei godi yn 1673 ar gyfer bonheddwr o'r enw Henry Somerset, Dûg Iaf Beaufort, a'r 3ydd Marcwis Caerwrangon. Roedd hefyd yn Arglwydd-Lywydd Cyngor Cymru a'r Gororau.

Yn ddiweddarach yn ei hanes, daeth yn llys barn, hyd nes y symudwyd y llys i'r Neuadd y Sir newydd yn 1725. Yn y gorffennol mae wedi bod yn bencadlys Peiriannwyr Brenhinol Sir Fynwy (milwrol) - ers canol y 19g. Ceir amgueddfa'r gatrawd o fewn ei furiau.[3]


Oriel golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. http://britishlistedbuildings.co.uk/wa-2217-great-castle-house-monmouth
  2. John Newman, The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire, Penguin Books, 2000, ISBN 0-14-071053-1, pp.400-401
  3. Monmouth Castle and Regimental Museum Archifwyd 2012-02-04 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd 23 Rhagfyr 2011