Hen draddodiad Cymreig o adeiladu , heb ganiatâd, dros nos ydy tŷ unnos.

Tŷ Hyll ger Betws-y-Coed sy'n enghraifft o dŷ unnos a chafodd ei wella ac ail-adeiladu mewn blynyddoedd diweddarach.

Credai rhai pobl pe bai modd adeiladu tŷ ar dir comin mewn un noson yn unig, yna byddai'r tir hynny'n eiddo iddynt. Ceir amrywiadau i'r traddodiad hwn: y prawf i weld os oedd y tŷ wedi'i orffen oedd os oedd tân ar yr aelwyd erbyn bore trannoeth; gallai'r trigolion ehangu ar eu tir trwy daflu bwyell o bedwar cornel y tŷ. Pa le bynnag y byddai'r bwyell yn disgyn, dyma fyddai eu tir. Mae Tŷ Hyll ger Betws-y-Coed yn enghraifft o dŷ a oedd yn wreiddiol yn dŷ unnos a chafodd ei wella ac ail-adeiladu mewn blynyddoedd diweddarach.


Gwreiddiau golygu

O gyfnod rhwng yr 17eg i ddechrau'r 19eg ganrif, cynyddodd boblogaeth Cymru ynghyd â thlodi gan arwain i gyfres o ddigwyddiadau o sgwatio (ymgartrefu heb ganiatâd) ar ddarnau o dir yn rhannau mwyaf gwledig Cymru. Cododd yr arfer oherwydd pwysau'r diffyg tir yn dilyn cau tiroedd comin, a'r rhentu a godwyd gan dirfeddianwyr.

Statws cyfreithiol golygu

Nid oedd gan tŷ unnos statws yng gyfraith Lloegr (y cod cyfreithiol Gymru a Lloegr y cyfnod), er roedd traddodiad o drafodaeth ynghylch y pwynt os oedd tir a feddiannwyd gan sgwatwyr heb deitl yn gyfreithlon. Efallai y roedd gan y gred chwedlonol tŷ unnos rywfaint o ddylanwad ar arferion pobl werin i sgwatio ar dir comin fel gallent dwyllo ac ennill dros yr awdurdodau heb dalu rhent.[1][2]

Ceir traddodiadau tebyg mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd. Mae Gecekondu yn air Tyrceg sydd yn feddwl tŷ 'codi dros nos'. Mae canoedd o filoedd o bobl dlawd yn byw yn Gecekondu ar dir heb ganiatâd ar ymylion dinasodd mawrion fel Istanbul ac Ankara. Mae cymunedau Tyrceg ym Berlin hefyd wedi'u codi.[3][4][5]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "The One-Night House, and its Distribution". Folklore 53: 161–163. doi:10.1080/0015587X.1942.9717642.
  2. "Victorian Powys - enclosing the land". History.powys.org.uk. Cyrchwyd 7 August 2019.
  3. Neuwirth, R (2004). Shadow Cities: A Billion Squatters, A New Urban World, Routledge ISBN 0-415-93319-6, Tualen 8.
  4. https://urbanage.lsecities.net/essays/istanbul-s-gecekondus
  5. Public Goods versus Economic Interests: Global Perspectives on the History of Squatting (Routledge), Freia Anders (Golygydd), Alexander Sedlmaier (Golygydd), ISBN 1138118974