Roedd Thomas George "T. G." Jones (12 Hydref 19173 Ionawr 2004) yn chwaraewr pêl-droed o Gymru ac yn fwyaf nodedig am ei yrfa gydag Everton a Chymru.[1][2]

T. G. Jones
Ganwyd12 Hydref 1917 Edit this on Wikidata
Cei Connah Edit this on Wikidata
Bu farw3 Ionawr 2004 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr, rheolwr pêl-droed Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auC.P.D. Wrecsam, Everton F.C., C.P.D. Pwllheli, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Safleamddiffynnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata
T. G. Jones
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1934–1936Wrecsam6(0)
1936–1950Everton178(5)
1950–1957Pwllheli
1957–1959Bangor
Tîm Cenedlaethol
1938–1950Cymru17(?)
1939–1945Cymru (adeg rhyfel)11(?)
Timau a Reolwyd
1950–1957Pwllheli
1957–1967Bangor City
1968Rhyl
1971-1972Bethesda
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Bywgraffiad golygu

Wedi'i eni yn Queensferry a'i fagu yng Nghei Connah, dechreuodd Tommy (T. Jones) ei yrfa broffesiynol gyda Wrecsam. Ymunodd ag Everton am £3,000 ym 1936. Enillodd fedal pencampwr Rhanbarth Cynghrair Cyntaf Pêl-droed yn ei ail dymor llawn yn unig i Everton yn 1938-39, cyn i'r Rhyfel Byd Cyntaf ymyrryd a'i yrfa. Fe wnaeth Jones wasanaethu fel Hyfforddwr Ymarfer Corff yn yr RAF yn ystod y rhyfel, ond dychwelodd i Everton ym 1946. Bu A. S. Roma yn llwyddiannus yn cynnig swm o  £15,000 amdano, swm mawr yn y dyddiau hynny, ond ni ddigwyddodd y trosglwyddiad oherwydd rheoliadau cyfnewid tramor. Ar ôl y rhyfel, trosglwyddodd Everton Tommy Lawton i Chelsea a Joe Mercer i Arsenal. Roedd y cytundebau hyn nid yn unig yn ergyd i dîm Everton, ond iddo ef yn bersonol, ac yntau wedi bod yn was priodas i Joe Mercer.

Cyhuddodd cyfarwyddwr clwb Jones, yn ddi-sail, o ffugio anaf mewn gêm yn ystod y rhyfel ac roedd ei ymddangosiadau hŷn wedi hynny yn ysbeidiol. Roedd anaf Jones mewn gwirionedd yn ddigon difrifol i'w roi yn yr ysbyty am bedwar mis. Unwaith y daeth y berthynas gyda'r rheolwr Cliff Britton mor ddrwg na chafodd ei ddewis hyd yn oed ar gyfer y tîm wrth gefn, a chwaraeodd yn gyfrinachol ar gyfer Hawarden Grammar Old Boys. Daeth Jones yn gapten clwb yn 1949 ond ar ôl colli ei boblogrwydd, ym mis Ionawr 1950, derbyniodd gynnig i adael Everton ac ymuno â Phwllheli.  Gwnaeth 178 o ymddangosiadau i gyd ar gyfer Everton, gan sgorio pum gôl.

Enillodd Jones 17 cap ar gyfer Cymru ac un ar ddeg o gapiau mewn gemau rhyngwladol yn ystod y rhyfel.

Wedi i Jones adael Everton bu'n chwarae pêl-droed tu allan y gynghrair ar gyfer Pwllheli a daeth yn rheolwr rhan amser, yn ogystal â rhedeg gwesty yn y dref. Yn 1957 daeth yn rheolwr Dinas Bangor. Yn 1962, ar ôl ennill Cwpan Cymru, fe wnaeth y tîm guro Napoli 2-0 yn y gêm gartref yng Nghwpan Enillwyr Ewrop ond colli o 1-3 yn yr Eidal. Heb y rheol gôl i ffwrdd, collodd Bangor yn y gem ail-chwarae o 3-1. Daeth ei yrfa fel rheolwr i ben yn Y Rhyl ac yna bu'n gynghorwr am gyfnod byr i Fethesda. Yn ddiweddarach, bu Jones yn rhedeg siop gwerthu papurau newydd yng Ngogledd Cymru.

Etholwyd ef yn Milennium Giant gan Everton yn 2000, un o'r un ar ddeg cyntaf yn hanes hir y clwb i dderbyn yr anrhydedd. Disgrifiodd y panel o aseswyr ef fel pêl-droediwr di-ymdrech, medrus a hyderus.[3] Pasiodd y bêl o'i safle yn y canol yn yr un modd ac y byddai Franz Beckenbauer yn ei wneud yn ddiweddarach. Roedd yn enwog am ei ymddygiad ar y cae chwarae. Dynododd Stanley Matthews, Tommy Lawton, Joe Mercer a Dixie Dean Jones fel y chwaraewr mwyaf a welwyd erioed. Dywedodd cyn-seren Lerpwl o'r un cyfnod, Cyril Done, fod "T. G. yn wr bonheddig oddi ar ac ar y cae".

Yn ogystal â'i yrfa chwarae, roedd Tommy yn allweddol wrth ailsefydlu pêl-droed uwch yn ei dref ar ôl cwymp Cei Connah a Shotton United yn 1927, dim ond chwe mis ar ôl iddynt ennill Cwpan Cymru a maeddu enillwyr Cwpan FA y tymor blaenorol sef Dinas Caerdydd yn y rownd derfynol. Er bod clybiau iau, yr enwog Cei Connah Albion, yn chwarae yn y dref, ni fu tan ymyrraeth Tommy ym mis Gorffennaf 1946 y ffurfiwyd clwb Nomads Connah, sef clwb y Nomads heddiw. Wedi eu denu gan enw da'r rhyngwladwr enwog, roedd pobl ifanc o Gei Connah a'r trefi a'r pentrefi cyfagos yn heidio i ymuno â'r tîm newydd a datblygodd yn gyflym i fod yn yn dîm pêl-droed ieuenctid cryf yng Ngogledd Cymru, gan ennill Cwpan Ieuenctid Cymru ym 1948. Drwy ddilyniant naturiol ffurfiwyd tîm uwch gan ymuno â Chynghrair Sir y Fflint ym 1948. Dilynodd llwyddiant yn fuan a chyrhaeddodd Juniors Cei Conna rownd derfynol Cwpan Amatur Cymru yn 1950/51. Cyn tymor 1952/53, mabwysiadwyd yr enw Nomads gan sicrhau lle yng Nghynghrair Cymru (Gogledd).

Bywyd personol golygu

Bu farw ei wraig Joyce in 2003.  Cafodd ei oroesi gan ei ddwy ferch, Jane ac Elizabeth.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Obituary of TG Jones". The Guardian. https://www.theguardian.com/news/2004/mar/13/guardianobituaries.football. Adalwyd 22 Mawrth 2017.
  2. "Obituary of TG Jones". The Independent. 14 Ionawr 2004.
  3. "Everton FC obituary". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-12. Cyrchwyd 14 Hydref 2008.