Tair Colofn Cyfraith

Tair Colofn Cyfraith oedd y term a ddefnyddid yng Nghymru'r Oesoedd Canol i ddisgrifio'r tri dosbarth pennaf yng Ngyfraith Hywel, y corff o gyfreithiau Cymreig cynhenid a gysylltir ag enw'r brenin Hywel Dda. Fe'u ceir mewn adran arbennig yn yr hen gyfreithiau a elwir weithiau 'Y Llyfr Prawf' (h.y. sy'n ymwneud â barnu troseddau).

Tair Colofn Cyfraith

Y Tair Colofn yw:

Prif ystyr y gair affaith (sy'n cytras â'r gair effaith) yma yw 'cynhorthwy gweithred' neu 'fod â rhan mewn gweithred' (accessory). Mae'n derm a ddefnyddir yn bennaf yng nghyd-destun cyfraith galanas, lladrad a thân.

Enghraifft yw'r Tair Colofn o arfer hynafol y Cymry, a'r Celtiaid yn gyffredinol, o ddosbarthu pethau mewn trioedd. Ceir enghreifftiau tebyg yn llenyddiaeth (e.e. Trioedd Ynys Prydain) a gwleidyddiaeth (e.e. Tair Talaith Cymru) y wlad.

Cyfeiriadau golygu