Talkin Tarn

llyn yn Lloegr

Llyn yng ngogledd Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Talkin Tarn.[1] Mae’n llyn twll tegell, wedi ffurfio 10,000 mlynedd yn ôl[2]. Mae’n gartref i Glwb Hwylio Brampton ac i Glwb Rhwyfo Amatur Talkin Tarn. Mae’r llyn yn rhan o Barc Gwledig Talkin Tarn. Maint y llyn yw 65 acer ac mae llwbr 1.3 milltir o hyd o’i gwmpas[3]

Talkin Tarn
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCumbria
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau54.922°N 2.71°W Edit this on Wikidata
Map

Etymoleg golygu

Tarddiad yr enw Talkin yw’r dafodiaith Gymbreg o Frythoneg. Yn ôl A. M. Armstrong, et al., daw'r elfen gyntaf, tal, sy'n golygu "ael" neu "diwedd" neu "blaen" o'r Frythoneg a'r Gymraeg, Cernyweg, a Llydaweg gyfoes. Mae'r ail elfen yn aneglur. Gall ddod o'r Frythoneg fel sy'n ymddangos yn y Gymraeg a'r hen Gernyweg, can ("gwyn") a'r Lydaweg kann. Ystyr "Talkin" felly, o bosib, yw "ael gwyn".[4] Daw'r gair 'Tarn' o'r Hen Norseg 'tjǫrn' ac oddi yno i'r Saesneg Canol 'terne' yn golygu 'pwll fechan mewn mynydd' neu 'llyn fechan'.[5]

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 22 Chwefror 2020
  2. Gwefan visitnorthwest.com
  3. Gwefan visitcumbria.com.
  4. Armstrong, A. M.; Mawer, A.; Stenton, F. M.; Dickens, B. (1950–52). The place-names of Cumberland. English Place-Name Society, vol.xx. Part 1. Cambridge: Cambridge University Press. t. 89.
  5. Whaley, Diana (2006). A dictionary of Lake District place-names. Nottingham: English Place-Name Society. tt. lx, 423 p.420. ISBN 0904889726.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Cumbria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato