Tanwg

sant Cymreig o'r 6g

Sant Cymreig oedd Tanwg (fl. 6g), a oedd yn fab i Ithael Hael, a ffoes o Lydaw i Gymru gydag Emyr Llydaw yn ôl traddodiad.[1] Dethlir ei Ŵyl Mabsant ar 10 Hydref.

Tanwg
GanwydYnys Môn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Blodeuodd6 g Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaEmyr Llydaw Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl10 Hydref Edit this on Wikidata
TadIthel Hael Edit this on Wikidata

Hanes a thraddodiad golygu

Ychydig iawn a wyddys am y sant ei hun. Dywedir ei fod wedi astudio yng nghlas enwog Ynys Enlli. Roedd yn frawd i ddau sant arall, Gredifael (Penmynydd) a Fflewyn (a gysylltir â Llanrhuddlad ym Môn). Mae rhai achau yn ei wneud yn frawd i'r seintiau Tecwyn, Tegai, Trillo, Twrog, Baglan a Llechid yn ogystal. Dywedir fod Tanwg wedi dod i'r ardal yng nghwmni'r sant Cadfan, a sefydlodd clas Tywyn.[1]

 
Eglwys Sant Tanwg, Llandanwg

Sefydlodd Llandanwg yn Ardudwy, Gwynedd. Ar un adeg roedd eglwysi Harlech a Llanbedr yn gysegredig iddo hefyd.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 T. D. Berverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).