Teml yn Bodh Gaya yn nhalaith Bihar yn India yw Teml Mahabodhi.

Teml Mahabodhi
MathBuddhist temple Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBodh Gaya Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd4.86 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau24.696°N 84.9914°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Bodh Gaya neu Bodhgaya yw'r fan lle cyrhaeddodd Gautama Siddhartha, y Bwdha hanesyddol, ei Oleuedigaeth. Bodh Gaya yw'r bwysicaf o bedair man pererindod i ddilynwyr Bwdiaeth; y tair arall yw Kushinagar, Lumbini a Sarnath.

Credir i deml Mahabodhi gael ei sefydlu gan yr ymerawdwr Asoka a ymwelodd â Bodh Gaya ar ôl troi'n Fwdhydd a gadawodd arysgrif yno. Mae'r adeilad presennol yn ddiweddarach. Mae'n 160 troedfedd o uchder ac mae'n cynnwys cerflun anferth o'r Bwdha wedi'i gildio ag aur. Ceir nifer o stupas o gwmpas y deml wedi'u codi mewn diolch gan bererinion dros y canrifoedd. Yr olion hynaf ym Modh Gaya yw'r rhannau o'r hen glawdd neu ffens, yn bileri carreg cerfiedig, a safai o amgylch y deml wreiddiol.

Cyhoeddwyd Teml Mahabodhi yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2005.