Tenis Cymru (Saesneg: Tennis Wales) yw corff llywodraethol tenis yng Nghymru. Mae'n rhan o gorff llywodraethol Brydeinig, y Lawn Tennis Association.[1][2]

hen Bencadlys Tenis Cymru, East Moors, Caerdydd

Aelodaeth a Threfniadaeth golygu

Mae 90 clwb yn aelod o Tenis Cymru gydag oddeutu 15,000 aelod unigol. Mae Tenis Cymru yn trefnu twrnameintiau ieuenctid, agored a veterans. Trefnir hefyd cynghreiriau lleol a rhanbarthol - Gogledd Cymru a De Cymru - a thimau sirol.[2][3]

Mae Tenis Cymru yn cydlynu tua 250 twrnament bob blwyddyn. Mae'r cystadlaethau yma ar gyfer bob oed o chwech i dros 70 oed.

Prif bartneriaid cyllidol Tenis Cymru yw: Chwaraeon Cymru, y LTA a'r Tennis Foundation. Mae Tenis Cymru hefyd yn gweithio'n agos mewn partneriaeth gyda Chwaraeon Anabledd Cymru ac eraill.

Pencadlys golygu

 
Cyflwyno deiseb yn y Senedd - Achub Canolfan Tenis Genedlaethol Cymru, 2013

Hyd nes 2013 fe lleolwyd Tenis Cymru yng Nghanolfan Tenis Genedlaethol Cymru yn East Moors, Caerdydd. Cauwyd y Ganolfan ar fyr-rybudd gan ei rheolwyr, Virgin Active. Mae pencadlys Tenis Cymru bellach wedi ei lleoli yn Francis House, Drake Walk, Caerdydd a cheir swyddfa rhanbarthol ar Ffordd Plas Coch, Wrecsam.[4]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "NGB websites:About us:Sport Wales-Chwaraeon Cymru". Sport Wales-Chwaraeon Cymru website. Sport Wales. 2010. Cyrchwyd 22 January 2011.
  2. 2.0 2.1 "Tennis Wales - the governing body for tennis in wales". Tennis Wales Tenis Cymru website. LTA. 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-25. Cyrchwyd 2009-07-21.
  3. "Tennis Wales". Tennis Wales Tenis Cymru website. LTA. 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-03. Cyrchwyd 2009-07-21.
  4. https://www3.lta.org.uk/in-your-area/Wales/about-us/Find-out-more-about-Tennis-Wales/