Brenhiniaeth a fodolai yng Nghanolbarth Ewrop am fil o flynyddoedd bron, o'r Oesoedd Canol hyd at yr 20g, oedd Teyrnas Hwngari (Hwngareg: Magyar Királyság, Lladin: Regnum Hungariae, Almaeneg: Königreich Ungarn). Dyrchafwyd Tywysogaeth Hwngari yn deyrnas Gristnogol yn sgil coroni István I yn y brifddinas Esztergom ym 1000;[1] teyrnasai brenhinllin Árpád am y trichan mlynedd ddilynol. Erbyn yr 12g, cyrhaeddai Hwngari statws pŵer canol yn Ewrop.[1]

Teyrnas Hwngari
[[File:Coat of arms of Hungary (1915-1918, 1919-1946; angels).svg, Coat of arms of Hungary (1945).svg, Coat of arms of Hungary (1915-1918, 1919-1946; angels).svg, Coat of arms of Hungary (1896-1915; angels).svg, Coat of arms of Hungary (1874-1896).svg, Coat of arms of Hungary (1869-1874).svg, Coat of arms of Hungary (1848-1849, 1867-1869).svg|100px|upright=1]]
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasBudapest Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1000 Edit this on Wikidata
AnthemIsten, áldd meg a magyart Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Hwngareg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAwstria-Hwngari, Ymerodraeth Awstria Edit this on Wikidata
GwladTeyrnas Hwngari Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydayr Ymerodraeth Otomanaidd, Serbia, yr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47°N 19°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholDiet of Hungary Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
brenin Hwngari Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/Enwadyr Eglwys Gatholig Rufeinig Edit this on Wikidata
ArianAustro-Hungarian krone Edit this on Wikidata

Meddiannwyd canolbarth a thiriogaeth ddeheuol Hwngari gan yr Ymerodraeth Otomanaidd yn sgil Brwydr Mohács (1526), a rhannwyd y deyrnas yn dridarn: Hwngari Frenhinol, a barhaodd yn deyrnas dan reolaeth Tŷ Hapsbwrg; Hwngari Otomanaidd, a fu dan reolaeth y Tyrciaid o 1541 hyd at ei hildio i'r Hapsbwrgiaid ym 1699; a Thywysogaeth Transylfania, a fyddai'n lled-annibynnol o 1570 nes iddi fynd yn ddarostyngedig i'r Hapsbwrgiaid ym 1711.[1]

Ym 1867, dyrchafwyd y deyrnas gan gyfaddawd "y Frenhiniaeth Ddeuol" a drodd Ymerodraeth Awstria yn Awstria-Hwngari. Daeth Teyrnas Hwngari i ben yn sgil cwymp y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ym 1918, a sefydlwyd Gweriniaeth Hwngari. Adferwyd y deyrnas mewn enw ym 1920, ond heb frenin, a phenodwyd y Llyngesydd Miklós Horthy yn rhaglyw. Trodd Hwngari yn weriniaeth unwaith eto o ganlyniad i feddiannaeth y wlad gan yr Undeb Sofietaidd ym 1946.[1]

Brenhinllin Árpád (1000–1301) golygu

Brenhinoedd o linach Árpád

István I (1000–38)
Péter (1038–41; 1044–46)
Sámuel (1041–44)
András I (1046–60)
Béla I (1060–63)
Salamon (1063–74)
Géza I (1074–77)
László I (1077–95)
Kálmán (1095–1116)
István II (1116–31)
Béla II (1131–41)
Géza II (1141–62)
István III (1162–72)
László II (1162–63)
István IV (1163–65)
Béla III (1172–96)
Imre (1196–1204)
László III (1204–05)
András II (1205–35)
Béla IV (1235–70)
István V (1270–72)
László IV (1272–90)
András III (1290–1301)

Y wladwriaeth Hwngaraidd gyntaf yng Ngwastadedd Hwngari oedd Tywysogaeth Hwngari, a sefydlwyd tua 895 trwy uno llwythau'r Magyariaid dan arweiniad y penadur Árpád, wedi iddynt fudo o'r stepdiroedd yn y dwyrain a goresgyn Basn Panonia i orllewin Mynyddoedd Carpathia. Yn 972, trodd yr Uchel Dywysog Géza, gor-ŵyr Árpád, yn Gristion. Fe'i olynwyd yn 977 gan ei fab István (Steffan), a orchmynnodd i'r holl Hwngariaid fabwysiadu'r ffydd Gristnogol. Datganwyd István yn apostol gan y Pab Silvester II, a fe'i coronwyd yn Frenin István I ar Ddydd Nadolig 1000, gan sefydlu felly Teyrnas Hwngari, un o deyrnasoedd Catholig Ewrop yn yr Oesoedd Canol. Roedd István yn briod i Gisela o Fafaria, chwaer yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Harri II, ac ymdrechodd i fagu cysylltiadau agos rhwng Hwngari a'r gwledydd Almaeneg. Yn ei brifddinas Esztergom, gosodai cyfreithiau ysgrifenedig cyntaf Hwngari, a gwahoddodd ysgolheigion a chrefftwyr yn ogystal â chenhadon o bedwar ban Ewrop i'w deyrnas i gryfhau'r berthynas rhwng yr Hwngariaid a gweddill y Gristionogaeth. Enillodd reolaeth dros Dransylfania ym 1003, a chyflwynodd gyfundrefn o siroedd ar draws ei deyrnas, a phob un dan reolaeth cownt, i gymryd lle'r hen strwythur lwythol Fagyaraidd. Hawliodd yn eiddo'r Goron yr holl diriogaeth yn Hwngari nad oedd ym meddiant dynion rhydd, gan osod sail i gyfoeth a grym y frenhiniaeth. Bu farw István ym 1038, ac erbyn diwedd y ganrif câi ei ganoneiddio. Daeth Coron Apostolaidd Sant István yn un o brif symbolau Hwngari.

Byddai nifer o ddisgynyddion István yn cystadlu dros olyniaeth brenhinllin Árpád. Er gwaethaf, llwyddasant i wrthsefyll ymdrechion yr ymerodron Glân Rhufeinig i reoli Hwngari, yn enwedig ym 1063 a 1074. Estynnodd y Brenin László I (1077–95) ddylanwad ei wlad dros Groatia, ac ym 1102 coronwyd Kálmán (1095–1116) yn Frenin Croatia a Dalmatia, gan sefydlu undeb personol rhwng Hwngari a Chroatia a barodd hyd at 1526. Yn yr 12g daeth Hwngari yn ei thro dan ddylanwad yr Ymerodraeth Fysantaidd, a ymyrrodd yn y cystadlu dros yr orsedd rhwng István III (1162–72) â'i ewythrod László II (1162–63) ac István IV (1163–65).

Ailsefydlwyd annibyniaeth ac awdurdod y frenhiniaeth gan Béla III (1172–96), ac yn ystod ei deyrnasiad efe cyrhaeddodd brenhinllin Árpád anterth ei grym. Enillodd reolaeth dros Serbia i'r de a Galisia i'r gogledd, gan wneud Hwngari yn un o'r prif bwerau yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop. Fodd bynnag, dirywiodd y frenhiniaeth wedi marwolaeth Béla III o ganlyniad i arfer y brenhinoedd Imre (1196–1204) ac András II (1205–35) o wobrwyo'u cefnogwyr gyda rhoddion mawr o diriogaeth, a wanychodd gyfoeth a grym y goron. Yn raddol, datblygodd cyfansoddiad Hwngari ar sail cyfreithiau István I, ac ym 1222 cyhoeddodd András II y Bwl Euraid, un o'r esiamplau cynharaf o gyfyngiadau cyfreithiol ar rymoedd y frenhiniaeth mewn unrhyw wlad yn Ewrop.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Kristó Gyula – Barta János – Gergely Jenő: Magyarország története előidőktől 2000-ig (History of Hungary from the prehistory to 2000), Pannonica Kiadó, Budapest, 2002, ISBN 963-9252-56-5, t. 687, t. 37, t. 113 ("Magyarország a 12. század második felére jelentős európai tényezővé, középhatalommá vált."/"By the 12th century Hungary became an important European factor, became a middle power.", "A Nyugat részévé vált Magyarország.../Hungary became part of the West"), pp. 616–644