Opera mewn tri act gan Judith Weir, gyda libreto gan y cyfansoddwr The Black Spider (1985). Mae'r gwaith wedi seilio i ryw raddau ar novella 1842 Die schwarze Spinne gan Jeremias Gotthelf.[1]

Fe gomisiynodd Kent opera y gwaith gan Judith ar ôl i Norman Platt glywed recordiad o King Harald's Saga (gan Weir); wedi iddi greu argraff arbennig ar Platt, fe wnaeth gwrdd gyda hi a chomisiynu opera ar gyfer pobl ifanc gyda chronsfeydd gan y Cyngor Celfyddydau. Mae'n cyfuno stori werin o'r Swistir gydag adrooddiad newyddion o Wlad Pwyl. Mae'n gymysg o ddiregelwch, hanes, gwyddioniaeth, arswyd a chomedi, sy'n gofy actio a chanu medrus.

Perfformiwyd yr opera gyntaf yng nghladdgell Eglwys Gadeiriol Caergaint ar 6 Mawrth 1985, gyda'r tenor Armistead Wilkinson a phlant Ysgol Frank Hooker.[2] Mae'r opera yn para am tua awr a chwarter.[3]

Crynodeb golygu

Mae The Black Spider yn plethu dwy stori erchyll: ysbrydolwyd y gyntaf (sy'n cael ei pherfformio mewn egwyliau) gan adroddiad newyddion rhyfedd yn The Times yn 1983; ac mae'r ail (a genir fel opera) yn chwedl werin dywyll weid'i gosod yn y 15fed ganrif, ac addasiad o Die Schwarze Spinne (The Black Spider), nofel a gyhoeddwyd yn 1842 gan yr ysgrifennwr o'r Swistir, Jeremias Gotthelf.

Mae'r stori gyntaf yn adrodd hynt a helynt pentrefwyr sydd wedi'u llethu gan yr Iarll Heinrich drwg, sy'n gosod y dasg amhosibl iddynt o gludo coedwig ffawydd gyfan i fryg mynydd serth, caregog. Ymddangosa Heliwr Gwyrdd ac mae'n cynnig cwblhau's gwaith, ar yr amod y bydd merch o'r pentref yn ei briodi. Dim ond Christina o'r pentref sy'n gwrando arno, ond mae hi wedi dyweddio â Carl. Er gwaethaf hwn, mae Christina yn penderfynu derbyn bargen y Heliwyr Gwyrdd er mwyn arbed ei chyd-bentrefwyr rhag trais yr Iarll. Rhy'r Heliwr Gwyrdd gusan ar law er mwyn selio'r gytundeb, a theimla hithau deimlad o losgi poenus lle cyffyrddodd ei wefus ei chroen. Mae'r Heliwr Gwyrdd yn cadw'n ffyddlon i'w ran ef o'r fargen, ond torra Christina ei haddweid drwy briodi Carl. Yn ystod eu priodas daw pryf copyn drygionus du o'r man poenus ar ei llaw. Mae'r pryf copyn yn llwyddo i ddianc o'r eglwys ac ma'en lledaenu pla a haint o gwmpas y gymdogaeth - mae hyd yn oed yn ymddangos yn un o wleddoedd yr Iarll gan ei ladd yn y mwyaf ffiaidd.

Mae'r pryf copyn yn llwyddo i gau'r allanfa i'r dyffryn ac mae'n ymddangos yn amhosib i'r pentrefwyr ddianc o'u cartrefi. Drwy hap a damain, crwydrar'r pryf copyn i gitâr Caspar, sef cefnder Christina. Llwydda Christina i ddal y pryf copyn a rhuthra fel arwres i Cracow i'w gladdu ym medd Brenin Casimir IV a fu farw yn ddiweddar.

Mae'r chwedl fordern yn croncilo'r digwyddiadau rhyfedd yn dilyn gwaith cloddio bedd Casimir IV yn ystod y 1970au. Pan gaiff y bedd ei agor am y tro cyntaf, daw pryf copyn bach allan ohono, sy'n synnu'r ymchwilwyr. Yn fuan wedyn, caif fnifer cynyddol o weithwyr ac archeolegwyr y safle eu taro'n wael gann firws angheuol. Mae'n aneglur ac ni ellir egluro y marwolaethau.

Fersiwn Almaenaidd golygu

Fe wnaeth yr arweinydd a chyfansoddwr Benjamin gordon gael ei ofyn gan y Staatsoper Hamburg i adolygu ac ehangu ar yr opera ar gyfer ei thymor 2008/9. Er mwyn gwahaniaethu rhwng y fersiwn Saesnig, mae'r fersiwn Almaenaidd yn cael ei adnabod fel 'Das Gehimnis der schwarzen Spinne' ('The Secret of the Black Spider'). Ehangodd y gerddorfa i gynnwys llinynnau llawn, gan ychwangeu clainets a trwmpedau. Newidiwyd rhannau'r offerynnau taro, gan amnewid offerynnau o waith cartref gydag offerynnau taro mwy traddodiadol. Cafodd y rhan gitâr ei amnewid gan rhan newydd i'r delyn. Cafodd y rhannau lleisiol eu trawsnodi i alluogi i'r cantorion ddefnyddio mwy o'u ystod canu, ac ehangwyd arias ac ensemblau, gan ddefnyddio cerddoriaeth newydd wedi'u seilio ar motifau yn yr opera. Cafodd yr ychwanegiad o interliwdiau cerddorfaol i gynnwys darnau o'r gerddoriaeth wreiddiol er mwyn gwneud i'r gwaith bara'n hirach (tua 75 munud). Yn wrthgyferbyniad i'r trefniant cerddorfaol, mae trefniant Gordon wedi'i addasu ar gyfer offerynnwyr ifanc, ond yn fwy cymhleth na'r fersiwn gwreiddiol gyda rhytmau fwy cymhleth. Daeth y gerddoriaeth yn fwy nodweddiadol o Translyvania, ac yn rhai mannau yn fwy sinistr, a gan dof y gerddoriaeth 'pryf copyn' yn galluogi i'r gerddorfa rhannu'r llwyfan gyda'r cantorion. Mynychodd Judith Weir y premiere Almaenaidd ar 8 Chwefror 2009. Mae'r fersiwn 'Hamburg' wedi cael ei berfformio yn Bonn (2010), Regensburg (2011) a Dortmund (2014).

Cyfeiriadau golygu

  1. Andrew Clements, "Judith Weir", The New Grove Dictionary of Opera (London: Macmillan, 1997)
  2. N. Platt, Making Music (Ashford, Pemble Productions, 2001), tt.79-80
  3. World Cat entry for Black Spider opera, accessed 14 Awst 2015