The People of the State of New York v. Donald Trump

Achos troseddol yn erbyn Donald Trump, 45fed Arlywydd Unol Daleithiau America, oedd The People of the State of New York v. Donald Trump a gychwynnodd yng Ngoruchaf Lys Efrog Newydd yn Ebrill 2024. Cyhuddir Trump o 34 achos o ffugio cofnodion busnes gyda'r bwriad i gyflawni neu guddio troseddau eraill, yn ymwneud â thaliadau i Stormy Daniels, actores ffilmiau pornograffig, i geisio sicrhau ei thawelwch hi ynglŷn â pherthynas rywiol rhyngddynt. Yn ôl cyfraith daleithiol Efrog Newydd, camymddygiad yw ffugio cofnodion busnes, ond gallai gael ei ystyried yn drosedd difrifol os gwneid er hyrwyddo trosedd arall.[1] Cyhuddir Trump gan Erlynydd Ardal Manhattan o ffugio'i gofnodion busnes gyda'r nod o dorri cyfyngiadau ffederal ar ariannu ymgyrchoedd etholiadol, i ddylanwadu'n anghyfreithlon ar yr etholiad arlywyddol yn 2016, ac i gyflawni twyll treth;[2] mae pob un o'r 34 cyhuddiad yn erbyn Trump felly yn ffelwniaeth, ac mae'n wynebu dedfryd o garchar am 20 mlynedd os caiff ei euogfarnu ar o leiaf pum cyhuddiad.

The People of the State of New York v. Donald Trump
Enghraifft o'r canlynolbill of indictment, achos troseddol Edit this on Wikidata
Label brodorolPeople v. Trump Edit this on Wikidata
Rhan oMarch 2023 Donald Trump arrest rumors, indictments against Donald Trump Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi4 Ebrill 2023 Edit this on Wikidata
Prif bwncStormy Daniels–Donald Trump scandal, Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2016 Edit this on Wikidata
Enw brodorolPeople v. Trump Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ar 30 Mai 2024, cafwyd Trump yn euog o bob un o'r 34 cyhuddiad yn ei erbyn.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Libby Cathey, "Why Trump indictment might hinge on a 'novel legal theory'", ABC News (31 Mawrth 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 20 Mai 2024.
  2. (Saesneg) "Donald Trump Is Indicted in New York", The New York Times (5 Ebrill 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 5 Awst 2023.
  3. (Saesneg) "Donald Trump found guilty in historic criminal trial", BBC (30 Mai 2024).
  Eginyn erthygl sydd uchod am y gyfraith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.