Thomas Charles Edwards

gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, esboniwr a phregethwr, prifathro cyntaf y Coleg Cenedlaethol, Aberystwyth (1872-91), ac ail brifathro Athrofa'r Bala (1891-1900)

Ysgolhaig, awdur a gweinidog Cymreig oedd Thomas Charles-Edwards (22 Medi 183722 Mawrth 1900). Ef oedd Prifathro cyntaf Prifysgol Aberystwyth.[1]

Thomas Charles Edwards
Thomas Charles Edwards, tua 1885 (Casgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ganwyd22 Medi 1837 Edit this on Wikidata
Llanycil Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mawrth 1900 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, pregethwr Edit this on Wikidata
TadLewis Edwards Edit this on Wikidata
MamJane Edwards Edit this on Wikidata
PerthnasauThomas Charles-Edwards Edit this on Wikidata
Cerflun o Thomas Charles Edwards tu allan i'r Hen Goleg yn Aberystwyth

Bywgraffiad golygu

Roedd Thomas Charles Edwards yn fab i Lewis Edwards, sefydlydd Coleg y Bala. Addysgwyd ef yn Ngholeg Lincoln, Rhydychen, a dechreuodd bregethu gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn 1856. Daeth yn weinidog capel Windsor Street yn Lerpwl, ac yn ddiweddarach yn weinidog capel Catherine Street yn yr un ddinas. Ystyrid ef yn un o brif bregethwyr ei genhedlaeth.[1]

Yn 1872, sefydlwyd y brifysgol newydd yn Aberystwyth, ac apwyntiwyd Edwards fel y Prifathro cyntaf. Ymddiswyddodd yn 1891, yn rhannol am resymau iechyd ac yn rhannol i ddilyn ei dad fel pennaeth Coleg y Bala, a oedd bryd hynny lawn cyn bwysiced â'r coleg newydd yn Aberystwyth.[1]

Teulu golygu

Mae'r hanesydd Thomas Charles-Edwards yn ŵyr iddo.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: