Thomas Jones (bu farw 1604)

Roedd Syr Thomas Jones (1554 -1604) Yn fonheddwr Cymreig a wasanaethodd Aelod Seneddol ac Uchel Siryf.[1]

Thomas Jones
Ganwyd1554 Edit this on Wikidata
Abermarlais Edit this on Wikidata
Bu farw1604 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1586-87 Parliament, Member of the 1597-98 Parliament Edit this on Wikidata

Teulu ac addysg golygu

Ganwyd Jones rhwng misoedd Chwefror ac Ebrill 1554 (mae'r union ddyddiad yn anhysbys) yn fab hynaf i Syr Henry Jones, Abermarlais ac Elizabeth merch Mathew Herbert, Cogan Pill, Penarth ei wraig.

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol yr Amwythig cyn mynd ymlaen i'w hyfforddi'n fargyfreithiwr yn Gray's Inn. Priododd Jane ferch ac etifedd Rowland Puleston, Caernarfon bu iddynt pum mab a dwy ferch. Etifeddodd ystadau ei dad ym 1586

Gwasanaeth Cyhoeddus golygu

Bu Jones yn Ynad Heddwch ar feinciau Ceredigion a Sir Gaerfyrddin o 1583 Bu'n Custos Rotulorum Sir Gaerfyrddin 1586-1594 a 1595-1604 Bu'n Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin ym 1589 Uchel Siryf Sir Aberteifi ym 1602 ac Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin eto ym 1603. Bu'n Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin yn seneddau 1586 a 1597. Dyrchafwyd Jones yn farchog ym 1584[2]

Marwolaeth golygu

Bu farw Jones rhywbryd rhwng ysgrifennu ei ewyllys ar 7 Mawrth 1604 a'i brofi ar 18 Mai 1604. Claddwyd ei weddillion yn Llansadwrn.

Cyfeiriadau golygu

Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
Walter Rice
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin
15841586
Olynydd:
Herbert Croft
Rhagflaenydd:
Walter Vaughan
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin
15971601
Olynydd:
John Vaughan