Dinas yn nhalaith Baja California, Mecsico, yw Tijuana. Fe'i lleolir ar arfordir y Cefnfor Tawel ar y ffin ag Unol Daleithiau America. Gyda dinas San Diego, Califfornia, mae'n ffurfio cytref fawr sy'n pontio'r ffin. Mae mwy na 50 miliwn o bobl yn croesi'r ffin rhwng Tijuana a San Diego bob blwyddyn.

Tijuana
Mathcity in Mexico, ardal poblog Mecsico, dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,964,788 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1889 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser y Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
San Diego, Ensenada, Mexicali, Calexico, Los Angeles, Valle de Guadalupe Municipality, Zaragoza, Laredo, Texas, Słubice, Frankfurt an der Oder, Ciudad Juárez, Cancun, La Habana, Changchun, Mazatlán, Cincinnati, Busan, Toluca, Panjin, Leon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMecsico Edit this on Wikidata
SirBwrdeistref Tijuana Edit this on Wikidata
GwladBaner Mecsico Mecsico
Arwynebedd637 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr20 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Tijuana Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.536447°N 117.037155°W Edit this on Wikidata
Cod post22000–22699 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Municipal President of Tijuana Edit this on Wikidata
Map

Yng nghyfrifiad 2020 roedd gan ardal fetropolitan Tijuana boblogaeth o 2,157,853.[1]

Mae Tijuana yn ganolfan weithgynhyrchu bwysig ac yn gartref i gyfleusterau llawer o gwmnïau rhyngwladol.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 13 Gorffennaf 2023
  Eginyn erthygl sydd uchod am Fecsico. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato