Hen enw ar grefftwr teithiol sydd yn cyweirio offer metel yw tincer, tincr, neu ar lafar tincar.[1] Benthycwyd i'r Gymraeg Canol o'r ffurf Saesneg Canol tinker, a cheir cofnodion o'r gair mewn barddoniaeth Dafydd ap Gwilym ac Iolo Goch yn y 14g.[1] Nomadiaid perpatetig ydoedd, hynny yw yn ymgynnal eu bywyd crwydrol drwy wneud mân-swyddi i bobl ac yn masnachu â chymunedau sefydlog. Crwydrasant ar draws Ynysoedd Prydain ac Iwerddon yn trwsio offer metel, fel arfer pethau cyffredin y tŷ megis tegelli a phadelli, am dâl. Teithiodd rhai tinceriaid mewn grwpiau neu gymunedau bychain, megis y Teithwyr Gwyddelig, Teithwyr Ucheldiroedd yr Alban, neu'r Roma.

Tincer
Ffotograff gan John Thomas o dincer yn Llanfair (1880au).
Enghraifft o'r canlynolhen broffesiwn, galwedigaeth Edit this on Wikidata
Mathdirty job, coppersmith Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Daeth yr enw hefyd yn air difrïol i gyfeirio at "weithiwr trwsgl neu aneffeithiol",[1] a bellach fe'i ystyrir yn sarhad ac yn hen ffasiwn i alw rhywun o gymuned grwydrol yn dincer.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2  tincer. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 18 Tachwedd 2022.