Torra di l'Isuledda

tŵr Genoa yng Nghorsica

Mae Tŵr Isuledda (Corseg: Torra di l'Isuledda, Ffrangeg: Tour de l'Isolella ) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Pietrosella (Corse-du-Sud) ar Ynys Corsica. Mae'r tŵr yn sefyll ar uchder o 68 m ar bentir, y Punta di Sette Nave, sy'n ffurfio terfyn deheuol Gwlff Ajaccio.

Torra di l'Isuledda
MathTyrau Genoa yng Nghorsica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPietrosella Edit this on Wikidata
GwladBaner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau41.8444°N 8.75472°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb hanesyddol cofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion

Hanes golygu

Adeiladwyd y tŵr tua 1597. Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[1] Cafodd y tŵr ei hadfer ym 1970.[2] a'i restru fel un o henebion hanesyddol Monument historiqu Ffrainc ym 1992. Mae'n eiddo i gymuned Pietrosella.[3] Wedi'r adfer mae'r tŵr mewn cyflwr da. Mae ei wregys o frics coch yn amlwg ac mae ymysg yr esiamplau gorau o'r defnydd o ryngdyllau mewn tyrau Genoa. Mae'n hawdd ymweld â'r tŵr trwy ddilyn llwybr bach 500 meter o faes parcio cyfagos ond ni chaniateir mynediad i mewn i'r adeilad.[4]

Gweler hefyd golygu

Galeri golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. t. 138. ISBN 2-84050-167-8.
  2. "Tŵr de l'Isolella". Office de Tourisme d'Ajaccio. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 28 May 2014.
  3. "Monuments historiques: Tŵr d'Isolella ou des Sette Navi". Ministère de la culture. Cyrchwyd 4 May 2014.
  4. La tour génoise de l’Isolella Archifwyd 2017-12-11 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 21 Awst 2018

Dolenni allanol golygu