Trefor Selway

Actor o Gymro

Actor a diddanwr oedd Trefor Selway (193125 Chwefror 2018).[1][2] Roedd yn athro yn y 1950au ac yn yr 1980au daeth yn actor llawn amser.

Trefor Selway
Ganwyd1931 Edit this on Wikidata
Pandy Tudur Edit this on Wikidata
Bu farw25 Chwefror 2018 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, athro Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd Selway ym Mhandy Tudur, Sir Conwy a magwyd yn ardal Penygroes. Astudiodd yng Ngholeg y Normal, Bangor.

Gyrfa golygu

Bu'n athro ac yna'n brifathro yn Eglwysbach, Ysgol Glanadda ym Mangor ac Ysgol Deganwy. Yn ystod y cyfnod yma roedd hefyd yn actio ar radio ac ar lwyfan.

Yn yr 1980au cynnar, aeth i weithio fel actor yn llawn amser. Bu'n cyflwyno'r rhaglen Noson Lawen ar y radio[3] a cyflwynodd y rhifyn teledu cyntaf o'r gyfres Noson Lawen ar S4C.

Bywyd personol golygu

Roedd yn briod a Liz ac roedd ganddynt ddau o blant, Alwen ac Owain a berfformiodd fel deuawd yn y 1960au. Bu farw Owain Selway ar 16 Rhagfyr 2005 wedi tân difrifol yn ei dŷ yn Eglwysbach. Fe'i achubwyd o ystafell wely gan swyddogion tân ac fe'i gludwyd i Ysbyty Glan Clwyd lle bu farw yn ddiweddarach. Roedd hyn yn dilyn tân yn ei dŷ yn Eglwysbach.[4]

Roedd wedi bod yn dioddef o glefyd lymffoma a bu farw yn yr ysbyty yn 86 oed.

Gwaith golygu

Teledu golygu

  • Dawn Dweud - perfformiwr ar y sioe adloniant (1985–1989)
  • Breian - comedi sefyllfa (1989–1990)
  • Porc Peis Bach
  • Yr Heliwr (1991)
  • Paradwys Ffŵl (1993)
  • Y Palmant Aur fel William Jones (1996–1997)
  • Hafod Haidd fel Evan (1998–1999)

Ffilm golygu

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu