Treowen

plasty yn Sir Fynwy

Mae Treowen (neu Tre-owen ) yn dŷ a adeiladwyd ar ddechrau'r 17g yn Sir Fynwy, Cymru, a ystyrir fel "y tŷ bonedd pwysicaf (o'i ddyddiad) yn y sir".

Treowen
Mathplasty gwledig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanfihangel Troddi Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr74 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.796°N 2.78221°W Edit this on Wikidata
Cod postNP25 4DL Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Mae wedi'i leoli yng nghefn gwlad, ym mhlwyf Llanwarw, tua ½ milltir (1 km) i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llanddingad, a 3 milltir i'r de-orllewin o Fynwy. Mae'n adeilad rhestredig Gradd I, ac, ar ôl cael ei ddefnyddio fel ffermdy am dair canrif, mae bellach yn lleoliad cynadleddau a digwyddiadau a dyma leoliad Ŵyl flynyddol Gerdd Siambr Dyffryn Gwy.

Hanes golygu

There is something very moving about the distant view of Treowen, rising suddenly, high and lonely, out of the fields. It has no park, for it has been a farm since the 17th century, but the lack of elaborate setting suits its character. It is not a sophisticated building but strong, massive and generous. The depredations of time and fallen fortune have removed a good deal, but nothing has been added: everything that is there is genuine, unaltered work of its age. - Mark Girouard, 1960[1]

Adeiladwyd y tŷ tua 1623–27 ar gyfer William Jones, ar safle adeilad o'r 15g.[2] Bu Jones yn Aelod Seneddol dros Sir Fynwy yn am gyfnod byr yn 1614, a bu'n Uchel Siryf Sir Fynwy yn 1615. Yn ddiweddarach, etifeddodd ffortiwn gan ei ewythr, masnachwr yn Llundain.

Symudodd y teulu Jones o'r tŷ yn y 1670au, a'i roi ar osod fel ffermdy. Ni addaswyd yr adeilad ei hun lawer, heblaw am gael gwared â llawr uchaf ar flaen yr adeilad yn y 18g. [3] [2] Gwerthwyd y tŷ i'r tenantiaid meddiannol ym 1945, a pharhawyd i'w ddefnyddio fel ffermdy tan 1993. Yn 1960, disgrifiodd yr hanesydd pensaernïol Mark Girouard y tŷ mewn erthygl yn Country Life (gweler y blwch dyfynnu). Mae gerddi'r tŷ yn cynnwys olion gardd Duduraidd, gan gynnwys clawdd hirsgwar ar ochr ogleddol y tŷ, rhodfa a phyllau pysgod addurnol.[4]

Mae'r tŷ bellach yn cael ei ddefnyddio fel canolfan ar gyfer cynadleddau a gwyliau, ac fel lleoliad ar gyfer priodasau ac achlysuron eraill. Fe'i ddefnyddiwyd hefyd ar gyfer ffilmio rhaglenni teledu, gan gynnwys Doctor Who .[5] Mae Treowen yn gartref i Ŵyl Gerddoriaeth Siambr Dyffryn Gwy, a gynhelir yn flynyddol ym mis Ionawr a mis Gorffennaf.[6]

Pensaernïaeth a disgrifiad golygu

Mae'r hanesydd pensaernïol John Newman yn ystyried Treowen fel y "tŷ bonedd pwysicaf o'r 17eg ganrif" yn Sir Fynwy. [3] Mae wedi'i adeiladu i gynllun pentwr dwbl [7] ac o Hen Dywodfaen Coch Coch, gyda blociau carreg lliw caramel a naddiad tywodfaen werdd o Pen-y-bont ar Ogwr.[8] Roedd y tŷ yn fawr iawn yn ôl safonau lleol yr oes, gyda golygfeydd helaeth. Ysgrifennodd Newman "pan adeiladwyd y tŷ yn wreiddiol, mae'n rhaid bod ei uchder wedi bod yr un mor frawychus a'i ddyluniad ailadroddus". [3] Newidiwyd y ffasâd diaddurn gwreiddiol yn gynnar yn ei hanes trwy ychwanegu cyntedd, gyda "rhagwedd glasurol o ddiffyg coethder", [3] ac arfbais Jones.

Y tu mewn i'r tŷ, mae'r ystafelloedd ar y llawr gwaelod yn codi i uchder o 17 troedfedd. Mae yna ystafell banel derw gyda nenfwd plastr a lle tân Jacobeaidd, a grisiau mawreddog gyda 72 gris. Dyma'r grisiau ffynnon agored cynharaf y gellir eu cofnodi ar gyfer Sir Fynwy . [3] Yn wreiddiol, roedd y neuadd fawr, neu wledda hon, yn dal "sgrin wedi'i cherfio'n hardd" ond mae'r hynefydd o Sir Fynwy, Joseph Bradney, yn ei aml-gyfrol A History of Monmouthshire from the Coming of the Normans into Wales down to the Present Time, yn cofnodi bod y sgrin wedi'i symud i Lys Llanarth, eiddo arall teulu Herbert, ym 1898. [9] Ysgrifennod Newman, yn 2000, fod y sgrin "yn debygol o gael ei dychwelyd", [3] safbwynt oedd yn adleisio barn Fred Hando, a ysgrifennodd 30 mlynedd ynghynt; "trosglwyddwyd y sgrin dderw dyddiedig 1627 o Dreowen lle, yn fy marn i, byddai'n cymryd ei lle'n well". [10]

Yn ei astudiaeth, Houses of the Welsh Countryside, (cyhoeddwyd 1975, ail argraffiad 1988), mae Peter Smith yn datgan bod Treowen "yn adeilad godidog iawn". [7] Disgrifiodd Tyerman a Warner, yn astudiaeth aml-gyfrol Arthur Mee The King's England, ei fod yn "un o'r tai gorau yn Sir Fynwy". [11] Mae Treowen yn adeilad rhestredig Gradd I. [8]

Cyfeiriadau golygu

  1. History, at Treowen website Archifwyd 2007-10-21 yn y Peiriant Wayback.. Accessed 2 February 2012
  2. 2.0 2.1 Tre-Owen at British Listed Buildings. Accessed 2 February 2012
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 Newman 2000.
  4. Treowen garden at RCAHMW Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback.. Accessed 3 February 2012
  5. Treowen website. Accessed 2 February 2012
  6. "Wye Valley Chamber Music". wyevalleyfestival.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-26. Cyrchwyd 14 April 2017.
  7. 7.0 7.1 Smith 1988.
  8. 8.0 8.1 "Listed Buildings - Full Report - HeritageBill Cadw Assets - Reports". Cadwpublic-api.azurewebsites.net. 2001-09-27. Cyrchwyd 2017-08-30.
  9. Bradney 1991.
  10. Hando 1964.
  11. Tyerman & Warner 1951.

Ffynonellau golygu

Dolenni allanol golygu