Trychineb Lag BaOmer, 2021

Gwasgfa dorfol yn ystod gŵyl grefyddol Lag BaOmer ym Meron, Israel, ar 30 Ebrill 2021 oedd trychineb Lag BaOmer. Bu farw 45 o bobl ac anafwyd rhyw 150, y mwyafrif ohonynt yn ddynion a bechgyn o enwad yr Iddewon Haredi.[1] Hon oedd y drychineb waethaf, nad oedd yn gyrch milwrol neu yn achos o derfysgaeth, yn hanes Gwladwriaeth Israel.[2]

Trychineb Lag BaOmer, 2021
Torf o bererinion yng ngŵyl Lag BaOmer yn ystod y dyddiau wedi'r drychineb.
Enghraifft o'r canlynoltrychineb Edit this on Wikidata
Dyddiad30 Ebrill 2021 Edit this on Wikidata
Lladdwyd45 Edit this on Wikidata
Rhan o2021 in Israel Edit this on Wikidata
Lleoliadtomb of Shimon bar Yochai, Meron Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethIsrael Edit this on Wikidata
RhanbarthMerom HaGalil Regional Council Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dyma oedd yr ŵyl grefyddol sylweddol gyntaf a gynhaliwyd yn gyfreithlon ers i Israel godi'r holl gyfyngiadau ers dechrau pandemig COVID-19.[3] Digwyddodd y drychineb ychydig cyn un o'r gloch y bore ar hyd un o'r llwybrau cul sydd yn cysylltu llwyfannau awyr-agored yr ŵyl. Yn ôl rhai llygad-dystion cychwynnodd y wasgfa wedi i'r heddlu gau'r dramwyfa, ond yn ôl ffynonellau'r heddlu fe'i achoswyd gan bobl yn syrthio ar risiau. Wrth i'r rhes ar flaen y dorf cwympo i'r llawr, disgynnodd y llif o bobl tu ôl iddynt ar eu pennau.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Israel crush: Israel mourns as festival crush victims identified", BBC (1 Mai 2021). Adalwyd ar 1 Mai 2021.
  2. (Saesneg) Tzvi Joffre, "In Lag Ba'omer Mount Meron stampede 45 killed, at least 150 injured", The Jerusalem Post (1 Mai 2021). Adalwyd ar 1 Mai 2021.
  3. "Mwy na 40 o bobl wedi marw mewn gŵyl grefyddol yn Israel", Golwg360 (30 Ebrill 2021). Adalwyd ar 1 Mai 2021.