Tudwen

santes Gymreig o'r 5g

Santes Gymreig oedd Tudwen (bl. 5g). Yn ôl yr achau traddodiadol roedd hi'n un o blant niferus Brychan, brenin Teyrnas Brycheiniog.[1] Ei gwylmabsant yw naill ai 21 neu 27 o Hydref.[2]

Tudwen
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl21 Hydref, 27 Hydref Edit this on Wikidata
TadBrychan Edit this on Wikidata
Ffenestri gwydr lliw yn Eglwys y Santes Tudwen, Llandudwen

Nawddsant golygu

Ychydig a wyddom amdani ar wahân i'w lle yn yr achau fel un o ferched niferus Brychan a'r ffaith mai hi yw sefydlydd a nawddsant Eglwys y Santes Tudwen yn Llandudwen (cymuned Buan) yn Llŷn, Gwynedd.

Ffynnon golygu

Roedd Ffynnon Dudwen mewn cae ger yr eglwys ond nid yw yno erbyn heddiw. Fe'i cysegrwyd i'r Santes Tudwen. Defnyddid dŵr y ffynnon i fedyddio plant y plwyf. Roedd yn enwedig o rinweddol at iachau epilepsi, crudcymalau, diffyg teimlad yn y corff, a llygaid blinedig. Cofnodir hefyd fod priodasau dirgel yn cael eu cysegru ger y ffynnon.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000).
  2. Lives of the Saints; adalwyd Rhagfyr 2017.
  3. Francis Jones, The Holy Wells of Wales (Caerdydd, 1954).